Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-Cyfle i fod yn rhan o’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-Cyfle i fod yn rhan o’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd
Pobl a lleBusnes ac addysg

Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-Cyfle i fod yn rhan o’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 13, 2024 4:17 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-Cyfle i fod yn rhan o’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd
RHANNU

Erthygl gwadd – Eisteddfod Genedlaethol

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o wyliau celfyddydol mwyaf Ewrop, sy’n denu dros 170,000 o ymwelwyr yn flynyddol.

Bydd yr Eisteddfod yn dychwelyd i Wrecsam wedi blwch o 14 o flynyddoedd, o 2-9 Awst 2025.

Ymhlith uchafbwyntiau’r ŵyl mae’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd a berfformir yn ystod Seremonïau’r Orsedd yn yr Eisteddfod ei hun a hefyd yn Seremoni’r Cyhoeddi a gynhelir yn yr ardal ar 27 Ebrill eleni. Mae cyfle i 20 o blant o ddalgylch yr Eisteddfod i fod yn rhan o gyflwyno’r ddawns. Estynnir gwahoddiad i blant sydd ar hyn o bryd ym mlwyddyn 6, 7 a 8 ysgolion Wrecsam i fynychu clyweliad er mwyn dewis y sgwad derfynol. Bydd yr ymarferion yn cael eu harwain gan Meinir Siencyn, Angharad Harrop a Hannah Rowlands.

Mae cyfranogi fel aelod o’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd yn gyfle mewn oes gyda’r penllanw yn seremonïau’r Coroni a’r Cadeirio yn yr Eisteddfod gyda chyflwyniad o’r ddawns ar lwyfan y pafiliwn a fydd hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar deledu.

Gofynnir i’r plant llwyddiannus fynychu ymarferion wythnosol fydd yn rhedeg o 3 Mawrth tan y Cyhoeddi, ac yna yn ystod y cyfnod rhwng tua Ebrill/Mai a’r Eisteddfod yn 2025

Os oes gan eich plentyn/plant ddiddordeb, dewch draw i’r clyweliad agored yn Ysgol Plas Coch, Wrecsam ddydd Sul 25 Chwefror am 10:30.  Gofynnir i chi gofrestru eich plentyn wrth gyrraedd, neu er mwyn hwyluso’r trefniadau, gellir mynegi diddordeb drwy e-bostio martha@eisteddfod.cymru ymlaen llaw.

Rhannu
Erthygl flaenorol Thank you Diolch am gynorthwyo i lunio dyfodol Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Erthygl nesaf Local Builder Erlyn adeiladwr lleol am adael preswylydd heb ystafell ymolchi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English