Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi Apêl y Pabi yng ngêm Wrecsam y penwythnos hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
Arall Y cyngor
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 8-9 Ionawr
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi Apêl y Pabi yng ngêm Wrecsam y penwythnos hwn
Pobl a lleY cyngor

Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi Apêl y Pabi yng ngêm Wrecsam y penwythnos hwn

Diweddarwyd diwethaf: 2022/11/02 at 11:32 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Poppy Appeal
RHANNU

Diolch enfawr i bawb a roddodd yn hael i Apêl y Pabi yng ngêm Wrecsam vs Altrincham ddydd Sadwrn.

Anogwyd cefnogwyr a oedd yn y gêm i roi’n hael, ac roedd gwirfoddolwyr ar ochr y cae ac yn y standiau’n casglu arian ar gyfer yr achos.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Mae Apêl y Pabi wedi’i threfnu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, ac fe’i sefydlwyd ym 1921, yn fuan wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae gwisgo pabi yn dangos cefnogaeth i’n lluoedd arfog, a defnyddir yr arian a gaiff ei godi i helpu dynion a merched sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Ymunodd Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, â’r gwirfoddolwyr yn y gêm a dywedodd ei bod yn hyfryd gweld pobl yn cefnogi’r tîm pêl-droed a’r apêl.

Dywedodd y Cynghorydd Parry-Jones, “Mae Wrecsam yn hynod o falch o’i gysylltiadau â’r lluoedd arfog, ac mae nifer o ddynion a merched o bob rhan o’r fwrdeistref sirol wedi gwasanaethu a gwneud aberthau hynod dros y blynyddoedd.

“Mae Apêl y Pabi yn fenter hyfryd sy’n darparu help hanfodol i staff y gwasanaethau arfog a’u teuluoedd – yn aml pan fyddant ei angen fwyaf.

“Hoffwn ddweud diolch yn fawr i bawb a roddodd yn hael yn y gêm ddydd Sadwrn. Efallai ei fod yn ymddangos yn fach, ond drwy brynu pabi rydych chi wedi helpu cymuned Wrecsam ddweud ‘diolch’ i’r dynion a’r merched dewr sy’n rhoi cymaint i’n gwlad.

“Os nad oes gennych chi babi eto, cofiwch gyfrannu a gwisgo eich pabi â balchder.”

Cafodd yr ymgyrch genedlaethol ei lansio ddydd Sul (30 Hydref), a chafodd ei nodi yn Wrecsam â gwasanaeth byr yn Llwyn Isaf – yn bresennol yr oedd y Cynghorydd Parry-Jones, Maer Wrecsam y Cynghorydd Brian Cameron, Beicwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol a chefnogwyr allweddol eraill.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Diogelwch Anifeiliaid ar Noson Tân Gwyllt Diogelwch Anifeiliaid ar Noson Tân Gwyllt
Erthygl nesaf Bydd FyNghyfrif oddi ar-lein am gyfnod byr Bydd FyNghyfrif oddi ar-lein am gyfnod byr

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg Ionawr 9, 2026
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
Arall Y cyngor Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Winter weather
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26

Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes

Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Pobl a lleY cyngor

Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr

Ionawr 8, 2026
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam

Ionawr 8, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English