Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diogelwch Anifeiliaid ar Noson Tân Gwyllt
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Diogelwch Anifeiliaid ar Noson Tân Gwyllt
Y cyngor

Diogelwch Anifeiliaid ar Noson Tân Gwyllt

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 2, 2022 10:54 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Diogelwch Anifeiliaid ar Noson Tân Gwyllt
RHANNU

Mae Noson Tân Gwyllt i ddod yn fuan ac er ein bod yn gobeithio y bydd pawb yn mwynhau digwyddiadau sydd wedi’u trefnu gofynnwn i chi ystyried anifeiliaid ar y noson swnllyd hon.

Cynnwys
  • Beth allaf ei wneud?
    • Os oes gennych chi anifeiliaid anwes
    • Os ydych chi’n tanio tân gwyllt

Gall anifeiliaid anwes a domestig wynebu pryderon wrth glywed tân gwyllt ond mae pethau y gellir eu gwneud i osgoi hyn.

CADWCH YN DDIOGEL – DERBYNIWCH Y RHYBUDDION DISEDDARAF AR SGAMIAU GALW NÔL CYNNYRCH A MATERION DIOGELU’R CHYHOEDD ERAILL

Rydym hefyd yn cefnogi ymgyrch ‘Bang Out of Order’ yr RSPCA sy’n galw am gyfyngiadau llymach ar dân gwyllt.  Yn 2019 pleidleisiodd ein Cyngor llawn ar gynnig am dân gwyllt a chytuno:

  • i fynnu bod pob arddangosiad tân gwyllt cyhoeddus a gynhelir ar dir y Cyngor a/neu sy’n gorfod cael caniatâd gan yr Awdurdod Lleol yn cael eu hysbysebu tair wythnos o flaen llaw, er mwyn galluogi trigolion i ragddarparu ar gyfer eu hanifeiliaid a phobl ddiamddiffyn;
  • i hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd yn frwd am effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn – gan gynnwys camau y gellir eu cymryd o flaen llaw i liniaru’r risgiau;
  • i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn eu hannog i ddefnyddio unrhyw ysgogiadau sydd ganddynt i liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn a achosir trwy gynnal arddangosiadau tân gwyllt;
  • annog cyflenwyr tân gwyllt lleol i werthu tân gwyllt ‘tawelach’ ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus; ac
  • ysgrifennu at y Llywodraeth Genedlaethol yn gofyn am reolaethau llymach ar ddefnyddio tân gwyllt.

Beth allaf ei wneud?

Os oes gennych chi anifeiliaid anwes

Sicrhewch fod eich anifeiliaid i mewn cyn i dân gwyllt ddechrau a rhoi rhywle iddynt guddio neu rywbeth i’w diddanu. Os ydych yn pryderu siaradwch â’ch milfeddyg ymlaen llaw i gael cyngor.
Mae gan yr RSPCA gyngor gwych ar gyfer cadw anifeiliaid yn ddiogel a gellir darllen mwy yma.

Os ydych chi’n tanio tân gwyllt

Ni ellir mynd â phob anifail anwes neu anifeiliaid fferm dan do ar noson tân gwyllt a gall anifeiliaid fel ceffylau ddychryn a dianc gan niweidio eu hunain yn aml. Os ydych chi’n bwriadu tanio tân gwyllt mewn ardal lle mae da byw, ystyriwch ddefnyddio tân gwyllt sŵn isel, maent yn dda iawn ac yn llai o fygythiad i anifeiliaid.

Hefyd sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i’ch cymdogion er mwyn iddynt gymryd y camau priodol.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, “Gall achosi pryder i anifeiliaid a’u perchnogion wrth i sŵn tân gwyllt eu dychryn. Byddwch yn ystyriol o berchnogion anifeiliaid anwes a da byw a rhowch wybod iddynt os ydych chi’n bwriadu tanio tân gwyllt”

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Anfonwch eich neges i dîm Cymru Anfonwch eich neges i dîm Cymru
Erthygl nesaf Poppy Appeal Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi Apêl y Pabi yng ngêm Wrecsam y penwythnos hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Crematorium
Y cyngor

Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan

Medi 16, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English