Fe wnaeth y cyngor, gwasanaethau brys a phartneriaid eraill ymateb yn wych i’r llifogydd yn Wrecsam yr wythnos ddiwethaf.
Ond fe wnaeth nifer o drigolion lleol chwarae eu rhan hefyd – pobl garedig a meddylgar a fu’n helpu i sicrhau bod cymunedau’n ddiogel yn ystod erchyllterau Storm Christoph.
Un o’r bobl hyn oedd Rae Pritchard, sy’n cynnal y clwb ar ôl yr ysgol yn Ysgol Sant Dunawd ym Mangor-Is-y-Coed.
“Roeddwn yn gallu clywed yr afon”
Am 1am fore dydd Iau (21 Ionawr) – gydag afon Dyfrdwy’n llifo’n gyflym – derbyniodd Rae alwad ffôn. Y cyngor oedd ar y ffôn yn gofyn a fyddai modd iddi agor yr ysgol, er mwyn defnyddio’r adeilad fel man ymgynnull i bobl a oedd yn cael eu symud allan o’r pentref.
Dywedodd Rae: “Roedd yn anghyffredin i mi, ond roeddwn dal yn effro yn cael pethau’n barod ar gyfer pen-blwydd fy merch pan gefais yr alwad. Felly estynnais y goriadau a mynd i’r ysgol.
“Nid yw’r ysgol yn bell felly roeddwn i yno ymhen dim, ond ar ôl cyrraedd, roeddwn yn gallu clywed yr afon. Nid oeddwn erioed wedi clywed yr afon fel hynny o’r blaen ac roedd yn eithaf brawychus. Roeddwn yn gallu clywed y pŵer.
“Agorais yr ysgol ac roeddwn i yno am tua 20 munud cyn i bobl ddechrau cyrraedd. Gofynnodd yr heddlu i mi nodi enwau a manylion y bobl wrth iddynt gyrraedd drwy’r drws.
“Mi wnes i hefyd droi’r gwres ymlaen er mwyn cadw pawb yn gynnes, a gwneud paneidiau o de. Roeddwn yn falch iawn o allu helpu ac rwy’n credu y byddai unrhyw un wedi gwneud yr un fath.”
Gweithred fechan oedd hon, ond fe wnaeth wahaniaeth enfawr ar y noson – gan helpu i sicrhau fod pobl yn gallu gadael y pentref yn ddiogel.
“Mae pobl yn helpu ei gilydd ar adegau anodd”
Cawsom wybod hefyd am bobl yn cynnig help llaw drwy ddulliau eraill ar draws y fwrdeistref sirol – er enghraifft, helpu â bagiau tywod, rhybuddio preswylwyr a chynnig cysur i bobl a gafodd eu symud allan o’u cartrefi.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Gwelwyd gweithredoedd bychain o garedigrwydd fel hyn mewn nifer o gymunedau a effeithiwyd gan y llifogydd a hoffwn ddiolch i bawb a helpodd yn ystod y noson.
“P’un a wnaethoch agor adeilad yn yr un modd â Rae – er mwyn ei ddefnyddio fel man ymgynnull yn ystod yr argyfwng – neu ddosbarthu bagiau tywod, neu gynnig gair o gysur i rywun a effeithiwyd gan y llifogydd. Mae’r pethau hyn yn aml iawn yn digwydd heb sylw na diolch, ond maent wir yn gwneud gwahaniaeth.
“Mae’n braf gwybod fod cymunedau yn dod at ei gilydd ac yn cynnig help llaw ar adegau anodd.
“Rwy’n falch iawn o’r ffordd y gwnaeth Wrecsam ymateb i’r argyfwng yr wythnos ddiwethaf.”
Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru.
CANFOD Y FFEITHIAU