Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhybudd Safonau Masnach Wrecsam ynghylch negeseuon e-bost twyllodrus ynglŷn â Brechlyn Covid-19
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhybudd Safonau Masnach Wrecsam ynghylch negeseuon e-bost twyllodrus ynglŷn â Brechlyn Covid-19
Arall

Rhybudd Safonau Masnach Wrecsam ynghylch negeseuon e-bost twyllodrus ynglŷn â Brechlyn Covid-19

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 29, 2021 2:59 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Rhybudd Safonau Masnach Wrecsam ynghylch negeseuon e-bost twyllodrus ynglŷn â Brechlyn Covid-19
RHANNU

Mae Safonau Masnach Wrecsam yn ymwybodol o negeseuon e-bost twyllodrus ynglŷn â brechlyn Covid-19. Mae’r e-bost yn honni ei fod yn cael ei anfon gan y GIG ac mae’n gofyn i chi ddilyn dolen i dderbyn gwahoddiad i dderbyn y brechlyn.

Cynnwys
  • Sgam ydi hwn!
      • “Cofiwch gymryd eich amser”
      • Cofiwch, ni fydd y GIG byth yn gofyn am y canlynol:
      • Rhywfaint o gyngor
      • Sut i ddelio â negeseuon e-bost amheus
      • Adrodd am drosedd seiber
      • Cyngor cyffredinol ar sgamiau

Yn wahanol i sgamiau tebyg, dydi’r neges hon ddim yn gofyn am fanylion talu ond rydym ni’n amau bod y dolenni yn cael eu hanfon i dderbyn gwybodaeth bersonol neu fanylion talu yn nes ymlaen.

Yn ôl y neges: “The NHS is performing selections for coronavirus vaccination on the basis of family genetics and medical history. You have been selected to receive a coronavirus vaccination.”

Sgam ydi hwn!

Mi fyddwch chi wedyn yn gweld rhestr o bwyntiau bwled dan y pennawd ‘What you will need to do’, ac yna ychydig o wybodaeth am y bobl sy’n gallu defnyddio’r gwasanaeth yma.

Yn is i lawr, mae yna ddwy ddolen – ‘NHS – Accept Invitation’ ac ‘NHS – Reject Invitation’.

Sgam ydi hwn felly peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolen.

O dan y dolenni mae’r neges yn ceisio’ch perswadio gan ddweud: “you are required to reply to this invitation within 12 hours of this notification.”

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws

“Cofiwch gymryd eich amser”

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Ni fydd y GIG byth yn gofyn i chi am fanylion talu gan fod brechlynnau Covid-19 yn rhad ac am ddim. Mae yna bryder mawr ynghylch y sgam yma o ran bod pobl yn cael eu twyllo i feddwl bod hon yn neges go iawn, yn enwedig gan nad yw’r neges gyntaf yn gofyn am fanylion talu.

“Os ydych chi’n ansicr, fe allwch chi anfon negeseuon amheus i report@phishing.gov.uk a bydd y swyddogion yn fanno yn bwrw golwg arnyn nhw. Yn anffodus rydym ni’n gweld mwy a mwy o negeseuon testun ac e-bost yn ceisio defnyddio’r pandemig i ddwyn eich gwybodaeth bersonol. Cyn gwneud unrhyw beth, cymrwch eich amser i wirio ai sgam ydi o.”

Cofiwch, ni fydd y GIG byth yn gofyn am y canlynol:

• Manylion eich cyfrif banc / cerdyn
• Eich pin neu’ch cyfrinair
• Copïau o ddogfennau personol i brofi’ch hunaniaeth e.e. pasbort, trwydded yrru, biliau neu slipiau cyflog

I dderbyn gwybodaeth am frechlynnau Covid-19, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rhywfaint o gyngor

Mae’n bwysig iawn dilyn y tri cham hyn wrth benderfynu a yw’n ddiogel i chi wario’ch arian neu ddarparu’ch gwybodaeth bersonol:

STOPIO – Gall cymryd munud neu ddwy i feddwl cyn penderfynu gwario arian neu ddarparu gwybodaeth bersonol eich cadw chi’n saff.

HERIO – Ydi’r cynnig yn un go iawn? Mae gennych chi berffaith hawl gwrthod neu anwybyddu unrhyw gais. Dim ond troseddwyr fydd yn eich rhuthro neu’n gwneud i chi ddychryn.

AMDDIFFYN – Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’ch twyllo cysylltwch â’ch banc yn syth a rhowch wybod i Action Fraud.

Sut i ddelio â negeseuon e-bost amheus

Creodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol (NCSC), Wasanaeth i Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus, sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl anfon unrhyw negeseuon e-bost amheus atynt.

Yna bydd yr NCSC yn dadansoddi’r e-bost ac unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â’r neges.

Os ydych wedi derbyn e-bost yr ydych yn teimlo’n ansicr yn ei gylch, gallwch ei anfon ymlaen at y Gwasanaeth Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus trwy’r cyfeiriad e-bost report@phishing.gov.uk

Adrodd am drosedd seiber

Os ydych chi’n credu eich bod wedi bod yn ddioddefwr sgâm neu drosedd seiber, dylech adrodd am hyn i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Action Fraud yw’r Canolfan Cenedlaethol Adrodd am Sgamiau a Throsedd Seiber yn y DU.

Cyngor cyffredinol ar sgamiau

Gellir cael Cyngor i Ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 — os na fyddwn ar ein gwyliadwraeth rŵan, bydd ein holl waith da’n cael ei golli
Erthygl nesaf Rae Pritchard with Councillor Mark Pritchard Diolch o galon i’r bobl leol a helpodd yn ystod y llifogydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English