Fel y gwyddoch fwy na thebyg, mae’r rhan fwyaf o’r DU yn disgwyl tywydd gaeafol y penwythnos hwn, gyda rhywfaint o eira a rhew posibl yn cael eu rhagweld.
Byddwn yn cadw llygad ar y tywydd a bydd ein timau graeanu allan yn trin arwynebau lle bo’n briodol.
Casgliadau bin
Gan fod Ionawr 1 yn ŵyl banc, mae casglu sbwriel ar gyfer dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener ddiwrnod yn ddiweddarach yr wythnos hon. Felly os ydych fel arfer yn cael casgliad ar ddydd Gwener, bydd hyn ar ddydd Sadwrn yr wythnos hon.
Os bydd y tywydd yn effeithio ar hyn byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ymlaen llaw ag y gallwn. Gallwch wirio dyddiad casglu eich bin ar ein gwefan.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i wasanaethau’r cyngor drwy’r cyfryngau cymdeithasol a’r blog newyddion hwn.
Yn y cyfamser, dyma nodyn atgoffa am sut i adrodd am faterion…
Gallwch roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw faterion brys (llifogydd, difrod oherwydd storm, coed wedi cwympo ac ati) ar y rhifau canlynol:
- (24 wr) 01978 298989
- Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993. Ar ôl oriau gwaith yn unig, gallwch hefyd anfon e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk
Ffoniwch ni os yw’n fater brys yn unig – ar gyfer materion eraill, helpwch ni trwy roi gwybod am faterion ar-lein:
Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105. (Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).
Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.