Mae tair ysgol gynradd yn Wrecsam wedi elwa o sesiynau hyfforddi Arwyr Digidol yn ddiweddar, dan arweiniad Cwmpas a Chymunedau Digidol Cymru yn Ysgol Gynradd Parc Borras.
Cynhaliwyd y sesiynau ar 6 Hydref 2023 a’r tair ysgol a gafodd yr hyfforddiant oedd Ysgol Gynradd Parc Borras, Ysgol Gynradd Victoria ac Ysgol Gynradd y Rofft.What is a Digital Hero?
Beth yw Arwr Digidol?
Arwyr Digidol yw plant a phobl ifanc sy’n ddefnyddwyr technoleg hyderus ac sy’n gallu cefnogi pobl eraill sydd efallai’n llai hyderus i fynd ar-lein, gan gynnwys y rheiny sy’n byw â dementia.
Mae wedi’i brofi bod lefelau ymgysylltiad cadarnhaol pobl sy’n byw â dementia yn uwch wrth ryngweithio â phlant.
Gall Arwyr Digidol fod yn blant ysgol, aelodau o’r sgowtiaid neu’r geidiaid, cadetiaid neu fyfyrwyr colegau a phrifysgolion. I ddysgu mwy, edrychwch ar dudalen we Cymunedau Digidol Cymru.
Trefnwyd y sesiynau gan Kate Evans a Vicky Lindley-Jones o’n Tîm Comisiynu Gofal Cymdeithasol i Oedolion a byddwn yn ceisio darparu sesiynau i holl ysgolion Wrecsam dros y 12 mis nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydym yn awyddus i weithio gyda holl ysgolion Wrecsam i hyrwyddo Arwyr Digidol i alluogi plant i helpu eraill yn y gymuned, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o ddementia ac arwyddion dementia. Mae pawb yn elwa o’r dull integredig hwn o weithredu. Er enghraifft, mae’r plant yn canu, diddanu neu chwarae gemau, yn ogystal â rhannu rhai o’u sgiliau digidol, a gall y genhedlaeth hŷn ddysgu gwersi bywyd pwysig iddyn nhw ac am bwysigrwydd gweithio, yn ogystal ag adrodd llawer o hanesion difyr.”
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae hon yn fenter gadarnhaol dros ben sy’n annog plant a phobl ifanc i rannu eu sgiliau digidol gydag eraill yn y gymuned, ac yn eu tro maen nhw’n dysgu gwerthoedd pwysig hefyd. Rydym yn hynod falch bod disgyblion o’r tair ysgol gynradd yn Wrecsam wedi gweld gwerth mewn bod yn Arwr Digidol, ac rydym yn edrych ymlaen at weld ysgolion eraill yn elwa o’r hyfforddiant hwn.”
Dywedodd Ysgol Gynradd Parc Borras wrthym: “Roedd y plant wirioneddol wedi mwynhau’r hyfforddiant ac maent yn gwisgo eu bathodynnau yn falch o amgylch yr ysgol. Ers yr hyfforddiant, rydym wedi trafod gwahanol ffyrdd y gallant ddefnyddio’r sgiliau newydd y maent wedi’u dysgu gydag aelodau o’r gymuned a rhieni. Roedd yn bleser cael yr hyfforddiant yn yr ysgol. Rydym wedi gweithio gyda Chymunedau Digidol Cymru ers sawl blwyddyn ac rydym wedi elwa bob tro o’r prosiectau yr ydym wedi cymryd rhan ynddyn nhw.”
Dywedodd Ysgol Gynradd Victoria wrthym: “Dywedodd y disgyblion eu bod wedi mwynhau’n fawr cael dysgu sgiliau newydd a’u bod yn edrych ymlaen at gefnogi plant yn ein hysgol, rhieni ac aelodau o’r gymuned. Maen nhw wedi gofyn am gael dechrau gweithio ar gyflwyniad i’w rannu gyda disgyblion mewn gwasanaethau, sesiwn galw heibio ar ôl ysgol i rieni, ac ymweld â chartref gofal lleol.”
Dywedodd Ysgol Gynradd y Rofft wrthym: “Roedd y gweithdy hyfforddiant digidol yn sesiwn ardderchog, llawn gwybodaeth a chynhyrchiol ac yn bendant eglurwyd nifer o bwyntiau am hyfforddiant digidol a diogelwch ein plant nawr ac yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn am wasgu cymaint o wybodaeth ddefnyddiol, bwrpasol a pherthnasol i’r prynhawn a rhoi cyfle i’r plant ryngweithio mewn ffyrdd amrywiol. Daethant allan o’r sesiwn yn llawn cymhelliant a brwdfrydedd.
“Hyd yma, mae’r plant wedi cynhyrchu posteri hynod drefnus a chlir am y tair rheol diogelwch digidol i helpu i addysgu plant iau yn yr ysgol. Maent wedi cael eu harddangos yn y neuadd er mwyn i bawb weld pa mor bwysig yw’r maes dysgu hwn i ni.
“Rydym yn gobeithio cydweithio â’n cartref gofal lleol a chlwb cinio yn y Caffi i helpu i gefnogi a gwella sgiliau digidol ar ôl y Nadolig.”
Postiodd Linzi Jones, Ymgynghorydd Cynhwysiant Digidol i Gymunedau Digidol Cymru y neges ganlynol ar X: “Gwych cael @BorrasPark, @rofftschool ac Ysgol Gynradd Victoria at ei gilydd heddiw ar gyfer sesiwn #ArwyrDigidol gyda @DC_Wales.
“Mae’r plant yn dysgu sut i gefnogi pobl hŷn i ddefnyddio technoleg yn ddiogel, gyda’r hyfforddwyr @EmaDCW a @MikeOHaraDCW.”
A ddylai’r flwyddyn ysgol newid? – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.