Wedi’i bostio ar ran Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam.
Mae’r cyngor, yr heddlu a gweithwyr iechyd ac elusennol yn parhau i gydweithio i geisio rheoli camddefnyddio sylweddau a digartrefedd yn Wrecsam.
Mae’r grŵp bychan o bobl ddigartref sy’n gwersylla ar hen safle’r Groves wedi cael llawer iawn o sylw yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae gweithwyr allgymorth yn parhau i ymgysylltu â nhw.
Mae patrolau diogelwch hefyd yn parhau ddydd a nos er mwyn ceisio cadw’r safle a’r adeilad yn ddiogel ac mae’r heddlu’n dal i ymateb i alwadau ac yn patrolio’r ardal.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Dros yr wythnos ddiwethaf gwelwyd dwy babell arall ar rannau eraill o’r safle – i ffwrdd o’r safle bychan wedi’i reoli sy’n agos at Ffordd Caer lle mae’r rhan fwyaf o’r pebyll wedi’u gosod.
Mae gweithwyr allgymorth wedi bod allan i siarad â’r bobl yn y pebyll hyn, sydd yn ddigartref, ac maent yn ceisio’u helpu nhw i ddod o hyd i lety.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cysgu ar y safle yn dal i wersylla ar y rhan sy’n agos at Ffordd Caer.
Mae’r niferoedd sy’n gwersylla dros nos wedi aros yn gyson ar tua 20 neu lai ond wedi amrywio yn ystod y dydd.
“…nid yw hwn yn drefniant parhaol…”
Fel rhan o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam, mae’r cyngor, yr heddlu, gwasanaethau iechyd ac elusennau’n gweithio’n agos â’i gilydd.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r cyngor a’i bartneriaid yn goddef y sefyllfa ar hyn o bryd wrth geisio ymgysylltu â’r bobl ar y safle a chael y gefnogaeth angenrheidiol iddyn nhw.
“Mae gan y rhan fwyaf ohonyn nhw anghenion cymhleth, gan gynnwys problemau camddefnyddio sylweddau, ac rydym yn ceisio dwyn perswâd arnyn nhw i dderbyn cymorth…yn hytrach na’u gwthio nhw – a’r broblem -yn syth i ran arall o’r dref.
“Fodd bynnag, mae’n bwysig pwysleisio eto nad trefniant parhaol mo hwn.
“Nid yw’r safle’n addas ac nid yw hon yn sefyllfa dda i unrhyw un – gan gynnwys y bobl sy’n cysgu yno na’r trigolion sy’n byw gerllaw sydd, yn ddigon dealladwy, yn bryderus iawn.
“Bydd yn rhaid i’r sefyllfa newid, ond mae’n rhaid i hynny ddigwydd yn y modd cywir, ac rydym yn ceisio ymgysylltu â chymaint â phosibl o bobl ar y safle cyn i hynny ddigwydd.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI