- Rhowch eich ailgylchu allan ar eich diwrnod casglu arferol (gan gynnwys gwastraff bwyd).
- Os na fydd wedi’i gasglu erbyn diwedd y dydd, ewch ag ef yn ôl i mewn.
- Os gallwch chi, ewch â rhywfaint o’ch ailgylchu i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
- Peidiwch â rhoi eich bin du allan.
- Peidiwch â rhoi eich bin gwyrdd allan.
Yn dilyn gwaith yr wythnos ddiwethaf lle gwnaethom gasglu dros dair gwaith y gwastraff arferol, roeddem yn gallu trefnu casgliadau ychwanegol dydd Sadwrn a dydd Sul, a ddoe cafodd ychydig o’r strydoedd olaf gael eu casgliadau bin du ac roedd y cerbydau allan tan 7 o’r gloch neithiwr.
Yr wythnos hon eto o ganlyniad i’r weithred ddiwydiannol, rydym wedi gorfod lleihau’r gweithlu ac rydym yn blaenoriaethu casgliadau gwastraff bwyd ac ailgylchu.
Mae pob ymdrech wedi’i wneud i gasglu gymaint ag sy’n bosibl o wastraff ailgylchu a gwastraff bwyd, ond nid ydym wedi gallu cyrraedd pob ardal sy’n rhan o gasgliadau dydd Llun arferol. Os na fyddwn wedi gallu casglu eich gwastraff ailgylchu erbyn diwedd y dydd, ewch ag ef yn ôl i mewn.
Byddwn yn adolygu ein safiad bob dydd ar sail y gweithlu sydd gennym ar gael a byddwn yn parhau i anfon diweddariadau rheolaidd. Os gallwch chi, ewch â rhywfaint o’ch ailgylchu i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Storm Agnes
Ynghyd â’r weithred ddiwydiannol, mae rhagolygon tywydd yn nod y bydd storm yng nghanol yr wythnos hon a all arwain at newidiadau yn y ffordd rydym yn defnyddio’r staff sydd i mewn.
Yn ddibynnol ar ba ymateb sydd ei angen i ymateb i’r storm, efallai bydd casgliadau yn cael eu heffeithio.
Yn ystod y rhagolygon o law trwm a gwynt, gofynnwn fod unrhyw gynhwysyddion sy’n cael eu gadael i’w casglu yn cael eu gorchuddio ac yn cael eu gosod yn ddiogel i sicrhau nad oes sbwriel yn cael ei chwythu.
Cyngor am gasgliadau bin yn ystod wythnos gyntaf y streic (25-29 Medi) – Newyddion Cyngor Wrecsam