Am weddill yr wythnos hon (hyd at ac yn cynnwys dydd Gwener, Medi 29):
- Rhowch eich ailgylchu allan ar eich diwrnod casglu arferol (gan gynnwys gwastraff bwyd).
- Os na fydd wedi’i gasglu erbyn diwedd y dydd, ewch ag o’n ôl i mewn.
- Os gallwch chi, ewch â rhywfaint o’ch ailgylchu i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
- Peidiwch â rhoi eich bin du allan.
- Peidiwch â rhoi eich bin gwyrdd allan.
Fel yr ydych yn gwybod, aeth staff Cyngor Wrecsam sy’n aelodau o Unite ar streic ddechrau’r wythnos hon (Medi 25).
Mae’r criwiau casglu sbwriel felly’n brin o weithwyr ac mae’r lorïau casglu wedi bod yn cael eu rhwystro rhag gadael y depo ar yr Ystâd Ddiwydiannol yn brydlon yn y boreau oherwydd niferoedd mawr o brotestwyr.
Am y rheswm hwn rydym yn dal i flaenoriaethu casgliadau gwastraff bwyd ac ailgylchu yn ystod yr wythnos gyntaf hon o’r streic (Medi 25-29).
Rydym yn gofyn i aelwydydd roi eu hailgylchu a’u gwastraff bwyd allan ar y diwrnod arferol.
Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i gasglu cymaint â phosibl o’r gwastraff, ond yn anffodus hyd yma’r wythnos hon dim ond tua 80% o’n casgliadau arferol yr ydym wedi llwyddo i’w gwneud, felly os nad yw eich ailgylchu wedi’i gasglu erbyn diwedd y dydd, ewch ag o’n ôl i mewn.
Rydym yn cadw cofnod o unrhyw gasgliadau sydd wedi’u methu ac yn gwneud cynlluniau ar gyfer mynd i’r afael â hyn.
Os gallwch chi, ewch â rhywfaint o’ch ailgylchu i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
Mae’r canolfannau hyn ar agor 7 diwrnod yr wythnos ac mae’r oriau agor yn y tri safle wedi’u hymestyn i 8pm.