Fel rhan o’n cefnogaeth barhaus i fusnesau Wrecsam, rydym yn ymestyn ein grant Trawsnewid Trefi i bob ardal yn Sir Wrecsam.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Gellir defnyddio’r grant i brynu eitemau megis byrddau awyr agored, cadeiriau, seddi a chyfleusterau cownter arlwyo, cysgodlenni a chanopïau awyr agored, sgriniau, bolardiau, cynwysyddion planhigion a mesurau cadw pellter cymdeithasol.
Ni chaiff gefnogi unrhyw gostau eraill fel cynnal a chadw, nwyddau na gwasanaethau.
Bydd y grant yn helpu perchnogion busnesau i weithredu’n ddiogel tra bo cyfyngiadau megis cadw pellter cymdeithasol a gostwng niferoedd cwsmeriaid ar waith i sicrhau bod cwsmeriaid yn teimlo’n hyderus ac yn ddiogel wrth ymweld â’u heiddo.
Mae hyd at £2,000 fesul cais ar gael, gydag uchafswm grant o 80% o gostau cyffredinol yr archebion.Croesawir ceisiadau ar y cyd.
Gellir gwneud ceisiadau am y grant ar https://www.wrecsam.gov.uk/service/covid-19-cefnogaeth-i-fusnesau/grant-thematig-trawsnewid-trefi-covid-19
I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost i grants@wrexham.gov.uk
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi, “Rydym wedi gwrando ar bryderon busnesau ar draws y sir, ac fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i helpu, rydym yn hapus bod modd cynnig Grant Trawsnewid Trefi i fusnesau ar draws y sir erbyn hyn.”
Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru
CANFOD Y FFEITHIAU