Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn Briffio Covid-19 – beth fydd y rheolau newydd yn ei olygu yn Wrecsam o 28 Rhagfyr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Yn cael sylw arbennig > Nodyn Briffio Covid-19 – beth fydd y rheolau newydd yn ei olygu yn Wrecsam o 28 Rhagfyr
Yn cael sylw arbennigPobl a lleY cyngor

Nodyn Briffio Covid-19 – beth fydd y rheolau newydd yn ei olygu yn Wrecsam o 28 Rhagfyr

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 22, 2020 12:17 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Nodyn Briffio Covid-19 – beth fydd y rheolau newydd yn ei olygu yn Wrecsam o 28 Rhagfyr
RHANNU

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru set newydd o reolau a ddaw i rym ar draws Cymru ar 28 Rhagfyr.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws

O dan y system goleuadau traffig newydd , bydd y wlad yn symud i ‘Lefel Rhybudd 4’ – yn debyg i gyfnod atal byr yr hydref.

Felly beth yn union y mae angen i ni ei wneud o 28 Rhagfyr, a beth fydd yn newid yn Wrecsam?

https://gov.wales/sites/default/files/publications/2020-12/alert-levels-in-wales-simple-guide.pdf

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Mae’r neges sylfaenol yn syml: arhoswch adref a chyfyngu ar nifer y bobl rydych chi’n dod i gysylltiad â nhw.

Mae hyn yn golygu:

  • Dim ond â phobl rydych chi’n byw â nhw neu eich swigen gefnogaeth eich hun y dylech chi gymysgu (ni fydd modd i chi gael aelwyd ‘estynedig’).
  • Peidio â chwrdd â phobl o aelwydydd eraill. Mae hyn yn cynnwys dan do a thu allan.
  • Teithio at ddibenion hanfodol yn unig, megis gwaith, rhesymau iechyd neu ddyletswyddau gofalu.

Beth fydd yn cau yn Wrecsam?

Bydd y cyfleusterau canlynol ar gau o 28 Rhagfyr (er bydd llawer yn cau yn gynt oherwydd gwyliau banc y Nadolig):

  • Siopau/eiddo manwerthu nad ydyn nhw’n hanfodol
  • Y Farchnad Gyffredinol
  • Marchnad ddydd Llun ar Sgwâr y Frenhines.
  • Maes parcio ac adeilad Tŷ Pawb.
  • Lleoliadau lletygarwch ac adloniant.
  • Atyniadau i ymwelwyr, yn cynnwys Amgueddfa Wrecsam.
  • Bydd llyfrgelloedd yn aros ar gau heblaw ar gyfer archebu a chasglu.
  • Canolfannau hamdden, gan gynnwys Byd Dŵr Wrecsam a lleoliadau Hamdden Freedom eraill. Bydd cyrtiau chwaraeon a chyrsiau golff yn cau hefyd.
  • Lleoliadau ar gyfer derbyniadau priodas a the claddu.

Bydd y Cyngor yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol (megis cynnal a chadw priffyrdd). Bydd rhai gwasanaethau eraill yn cael eu hatal am y tro.

Beth fydd yn aros ar agor?

Bydd y pethau canlynol yn aros ar agor:

  • Parciau sy’n cael eu rheoli gan y Cyngor, parciau gwledig a meysydd chwarae.
  • Darpariaeth gofal plant.
  • Mannau Addoli
  • Amlosgfa Wrecsam (gyda chyfyngiadau ar fynychu gwasanaethau) a mynwentydd.
  • Y swyddfa gofrestru yn Neuadd y Dref am briodasau a seremonïau partneriaeth sifil, yn ogystal â chofrestriadau genedigaethau.
  • Bydd Marchnad y Cigydd yn aros ar agor ar gyfer masnachwyr bwyd.
  • Bydd Tŷ Pawb yn aros ar agor i fasnachwyr sy’n darparu gwasanaethau bwyd i fynd.
  • Bydd caffis ym Mhlas Pentwyn a Chanolfan Adnoddau Llai yn aros ar agor ar gyfer gwasanaethau bwyd i fynd.
  • Bydd gwaith yn yr awyr agored ar dai y cyngor yn parhau, a byddwn yn gwneud gwaith atgyweirio yn nhai tenantiaid os yw’n argyfwng.
  • Bydd y tair canolfan ailgylchu yn Bryn Lane, Brymbo a Phlas Madoc yn aros ar agor, ond rydym ni’n aros am ganllawiau terfynol gan Lywodraeth Cymru.

Swigod Nadolig

Rhwng 23 a 27 Rhagfyr (cyn i’r rheolau newydd ddod i rym ar 28 Rhagfyr), gall dwy aelwyd ffurfio ‘swigen Nadolig’.

Roedd caniatâd i dair aelwyd ffurfio swigen yn wreiddiol, ond mae’r nifer wedi lleihau yng Nghymru i ddwy aelwyd.

Mae’r risg yn cynyddu o ddal neu ledaenu’r feirws pan fyddwn ni’n dod ynghyd…felly meddyliwch yn ofalus wrth wneud cynlluniau.

Mae Nadolig llai yn Nadolig mwy diogel.

Os ydych chi’n penderfynu ffurfio swigen gydag aelwyd arall, dilynwch yr awgrymiadau yma gan Lywodraeth Cymru:

  • Osgowch gysylltiad agos gymaint â phosibl, defnyddiwch y lle’n gall a gadewch ddigon o le rhwng y seddi.
  • Agorwch ffenestri a drysau er mwyn awyru ystafelloedd pan fydd hi’n ddiogel i chi wneud hynny.
  • Glanhewch arwynebau’n rheolaidd a gochlwch eich dwylo’n aml – yn enwedig cyn bwyta.
  • Peidiwch â rhannu offer cegin a thyweli.

    Were you previous shielding? Or know someone who was?

    The Chief Medical Officer for Wales has provided special advice for people who were shielding about mixing over Christmas.

    Read that advice on our website and watch this message from @CMOWales ????https://t.co/spRvRqfyhh pic.twitter.com/wv86hhfUvs

    — Welsh Government (@WelshGovernment) December 17, 2020

Mae brechlynnau yn achub bywydau

Mae brechlynnau wedi arbed miliynau o fywydau, ac wedi helpu i frwydro yn erbyn sawl afiechyd – yn cynnwys polio, y frech goch, difftheria a thetanws.

Gan fod rhaglen brechu y DU wedi dechrau, gallwn edrych ymlaen at 2021 gyda gobaith ac optimistiaeth.

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am frechlyn Covid-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol High Street DIWEDDARIAD: Bydd y Grant Trawsnewid Trefi rŵan yn cynnwys pob ardal yn Sir Wrecsam
Erthygl nesaf Recycling Canolfannau ailgylchu gwastraff cartref Wrecsam i aros ar agor

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam letters at Erddig
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English