Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cyng. David A Bithell sydd yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch Corfforaethol:
“Yn dilyn arolwg gweledol o holl adeiladau ein hysgolion, rydym ni’n hyderus nad yw concrid RAAC wedi cael ei ganfod mewn unrhyw ysgol ar hyn o bryd.” “Bydd arolygon pellach nawr yn cael eu cynnal ar ein hadeiladau eraill.”
08.09.23 Diweddariad: Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (RAAC)
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal arolwg o’n holl adeiladau er mwyn nodi lle gallai’r deunydd hwn fodoli. Mae’r gwaith hwn yn rhoi blaenoriaeth i ysgolion yn y lle cyntaf.
Rydym yn gweithio i amserlenni hynod dynn a byddwn mewn sefyllfa i adrodd yn ôl ar ein canfyddiadau i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau, sef 13 Medi.
Ar hyn o bryd mae ein holl ysgolion yn parhau ar agor fel arfer. Mae’r aelodau wedi cael y newyddion diweddaraf am y sefyllfa a byddwn yn rhoi diweddariad pellach unwaith y bydd yr arolwg wedi’i gwblhau.