Casgliadau bin
Os byddwn yn methu unrhyw gasgliadau bin heddiw, byddwn yn ceisio dychwelyd nes ymlaen yn yr wythnos…os bydd y tywydd yn caniatáu. Mae hyn yn cynnwys unrhyw finiau a fethwyd ar ddydd Sadwrn, gan nad oeddem yn gallu casglu popeth oherwydd nifer o ffactorau.
Gallwch wirio dyddiad casglu eich bin a chofrestru ar gyfer e-byst atgoffa ar ein gwefan.
Statws yr ysgol
Gallwch roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw faterion brys…
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i wasanaethau’r cyngor drwy’r cyfryngau cymdeithasol a’r blog newyddion hwn.
Yn y cyfamser, dyma nodyn atgoffa am sut i adrodd am faterion…
Gallwch roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw faterion brys (llifogydd, difrod oherwydd storm, coed wedi cwympo ac ati) ar y rhifau canlynol:
- (24 wr) 01978 298989
- Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993. Ar ôl oriau gwaith yn unig, gallwch hefyd anfon e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk
Ffoniwch ni os yw’n fater brys yn unig – ar gyfer materion eraill, helpwch ni trwy roi gwybod am faterion ar-lein:
Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105. (Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).
Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.