Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwaith i hybu pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn Wrecsam ar y gweill
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Gwaith i hybu pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn Wrecsam ar y gweill
ArallDatgarboneiddio Wrecsam

Gwaith i hybu pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn Wrecsam ar y gweill

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 7, 2025 2:23 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Electric vehicle charging
RHANNU

Bydd gwaith i wella’r seilwaith gwefru cerbydau trydan yn Wrecsam yn dechrau yr wythnos hon, gan arwain at rywfaint o waith ffordd a mân wyriadau traffig.

Mae ceblau i gysylltu pwyntiau gwefru cerbydau trydan â’r cyflenwad trydan yn cael eu gosod yng nghyffiniau meysydd parcio sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor yn Stryd y Farchnad, Tŷ Pawb ac Adeiladau’r Goron, yn ogystal â than y ffordd ar Stryd y Farchnad a Stryd Holt.

Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan SP Energy Networks a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn 5 Chwefror.

Mae’r gwaith yn rhan o raglen barhaus i gynyddu darpariaeth pwyntiau gwefru cerbydau trydan dibynadwy ac o ansawdd uchel ar draws y sir, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Wrecsam yn gweithio gyda’r partneriaid, Costelloes, i gynyddu’r rhwydwaith o bwyntiau gwefru sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n cynnwys rhai gwefrwyr cyflymder uwch ym maes parcio Stryd y Farchnad yng nghanol y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr Hinsawdd Cyngor Wrecsam: “Bydd gwaith ffordd a rhai mân wyriadau, ond dylai’r gwaith gosod fod wedi’i gwblhau erbyn dechrau mis Chwefror a bydd yn arwain at fwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws canol y ddinas.

“Mae ceir trydan yn lanach ac yn wyrddach na cherbydau petrol a diesel, ac rydym eisiau annog eu defnydd yn y ddinas – ynghyd â cherdded, beicio a dulliau gwyrdd eraill o deithio.

“Mae cerbydau trydan yn dod yn fwy cyffredin, felly mae’n bwysig bod Wrecsam yn cadw i fyny ac yn darparu mwy o gyfleusterau gwefru

“Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd wrth i’r gwaith fynd rhagddo.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Snow alert Diweddariad eira 6.1.25
Erthygl nesaf Ffair swyddi Ffair swyddi yn dod yn ôl i Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English