DIWEDDARIAD PWYSIG
Mae Whirlpool am ALW CYNNYRCH YN ÔL YN LLAWN ar holl sychwyr dillad heb eu haddasu o gartrefi defnyddwyr.
Deallir bod hyn yn berthnasol i gymaint â 800,000 o sychwyr dillad Hotpoint, Indesit, Creda, Swan a Proline a gynhyrchwyd rhwng mis Ebrill 2004 – Medi 2015 sydd heb gael eu haddasu o gwbl. Mae hyn yn dilyn ymyrraeth gan Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch ar 4 Mehefin, bu i’r Swyddfa hysbysu Whirlpool o’u bwriad i gyflwyno hysbysiad Galw Cynnyrch yn ôl.
Dan y galw’n cynnyrch yn ôl, bydd gan brynwyr sydd â sychwr dillad a effeithiwyd heb ei addasu’r hawl i gael peiriant newydd yn ei le, a fydd yn cael ei ddanfon, ei osod a bydd yr hen un yn cael ei gludo oddi yno am ddim.
Bydd ad-daliad ar sail oedran cynnyrch neu addasiad ar gael i brynwyr sydd ddim eisiau’r cynnig am sychwr newydd.
Mae Whirlpool hefyd wedi cytuno ar nifer o gamau gweithredu, a fyddai’n cynnwys ymrwymiadau i:
• Darparu ymgyrch estyn allan i gwsmeriaid gydag ystod eang o gyhoeddusrwydd ar alw’r cynnyrch yn ôl o 22 Gorffennaf ymlaen.
• Sicrhau nad oes ffioedd i ddarparu, gosod a chael gwared ar beiriannau.
• Gwella adnabod a chyrraedd cwsmeriaid bregus; a darparu adroddiad ar y cynnydd a wneir yn amserol i’r Swyddfa wrth alw’r cynnyrch yn ôl.
Mae’r galwad hwn yn cynnwys pob model o sychwyr dillad gydag awyrell ac sy’n cyddwyso a gynhyrchwyd rhwng 1 Ebrill 2004 a 30 Medi 2015, a gwerthwyd yn y DU dan enwau Hotpoint, Indesit, Creda, Proline a Swan GAN EITHRIO y rheiny sydd wedi cael eu haddasu neu eu hamnewid yn unol â’r cytundeb rhwng Whirlpool UK Appliances LTS a Chyngor Peterborough ym mis Medi 2015.
Gall brynwyr gysylltu â’r Llinell Gymorth Whirlpool ar 0800 151 0905 i gael rhagor o wybodaeth neu ewch ar wefan Whirlpool i gael rhestr o beiriannau sy’n cael eu heffeithio. Mae’r rhestr hon ar gael ar productrecall.campaign.gov.uk
Os ydych chi eisiau gwneud cwyn neu dderbyn cyngor am nwyddau neu wasanaethau yr ydych wedi’u prynu, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN! DOES DIM OTS GEN