Bydd ddiweddglo swynol i’r ddiwrnod cerfio rhew – datganwyd y trefnwyr eu bydd yn ddenfynddio peiriant eira ar y dydd i roi awyrgylch llawen i’r diwrnod. Bydd y peiriant yn dechrau o 7yh, ac yn rhedeg hyd at ddiwedd y digwyddiad at 8yh.
Bydd y hwyl yn dechrau o 3yp, a bydd cerfwyr coed Simon O’Rourke yn creu cerflun rhew ar flaen-gwrt yr Amgueddfa.
Wedi’i noddi gan Wrexham Lager, bydd yn ddigwyddiad hwyliog dros ben gyda gwobrau gwych i’w hennill hefyd.
“Blaswch ein bwyd lleol ardderchog”
Dyma gyfle i ymlacio a mwynhau eich hun. Bydd bwyd ar gael o gaffi’r Amgueddfa, cewch fynd i weld beth sydd ar gael yn y siop a phrofi bwyd lleol blasus Mrs Picklepot, Sabor Damor, Veggie Fayre Brownies a mwy.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Bydd y cerfio rhew yn digwydd yn ‘fyw’ ac os gallwch ddyfalu beth fydd y cerflun terfynol cyn i Simon ei orffen, byddwch yn cael bar o siocled blasus am ddim.
Meddai Simon: “Mae’n beth cyffrous iawn i mi gael gwneud cerflun rhew o flaen cynulleidfa yn Wrecsam – rhywbeth sydd erioed wedi digwydd o’r blaen yn y dref.”
Dim ond £2.50 yw tocynnau i oedolion neu £5 i deulu (2 oedolyn a hyd at 3 o blant) ac maent ar gael o’r Amgueddfa neu ar lein yn www.thisiswrexham.co.uk. Bydd cyfle hefyd i ennill taith am ddim o amgylch bragdy Wrexham Lager a 12 potel o lager – un ar gyfer 12 dydd y Nadolig.
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.