Ar ddydd Sadwrn 23 Gorffennaf, bydd Canolfan Hamdden a Gweithgareddau y Waun yn agor ei ddrysau ar gyfer eu diwrnod agored sy’n addo bod yn ddiwrnod llawn hwyl i’r teulu. Gyda dosbarthiadau ffitrwydd am ddim a mynediad i’r gampfa trwy’r dydd, a phris arbennig o £10 yr awr i ddefnyddio’r cae pêl-droed 3G.
Os nad oes gwahaniaeth gennych wlychu, bydd yna sesiwn nofio am ddim i’r teulu a sesiwn râs hwyl ar y teganau gwynt yn y pwll. Pwy fydd gyntaf i’r gwaelod?!
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Dywedodd David Watkin, Rheolwr Canolfan Hamdden a Gweithgareddau y Waun, Mae pawb yn edrych ‘mlaen at agor ein drysau i’r gymuned leol a dangos ein cyfleusterau gwych. P’un ai’n mwynhau nofio, cymryd rhan mewn dosbarthiadau ffitrwydd neu chwarae pêl-droed, mae rhywbeth yma i’r teulu i gyd.
Heblaw hyn, byddwn yn hyrwyddo cynllun aelodaeth am bris arbennig ar y Diwrnod Agored yn unig.
Mae Freedom Leisure yn Wrecsam yn rhedeg Canolfan Hamdden a Gweithgareddau y Waun mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn edrych ymlaen at weld y gymuned yn cael hwyl ac yn mwynhau defnyddio’r ganolfan hamdden wych.
Am fwy o wybodaeth, i archebu amser ar y sesiwn teganau gwynt neu’r cae 3G ac i weld yr amserlen lawn, galwch 01691 778666 neu ewch i https://www.facebook.com/chirkleisurecentre
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH