Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adroddiad ar gynnydd ein cynlluniau i fod yn ddi-garbon erbyn 2030
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Digwyddiadau Pobl a lle
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Green garden waste bin
Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Wrecsam yw’r Enw
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Adroddiad ar gynnydd ein cynlluniau i fod yn ddi-garbon erbyn 2030
Y cyngor

Adroddiad ar gynnydd ein cynlluniau i fod yn ddi-garbon erbyn 2030

Diweddarwyd diwethaf: 2022/07/18 at 3:25 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Elec
RHANNU

Cymeradwywyd ein Cynllun Datgarboneiddio fis Mai 2021 a bydd adroddiad ar y cynnydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cartrefi ac Amgylchedd ddydd Mercher 20 Gorffennaf.

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar bedair thema allweddol (Adeiladau, Cludiant a Symudedd, Defnydd Tir a Chaffael), yn ogystal â chamau gweithredu lefel uwch sy’n allweddol yn ein hymateb i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae swyddogion wedi parhau i weithio ar gyflymder i sicrhau ein bod ni ar y trywydd cywir i gyflawni ein hymrwymiadau fel rhan o’r cynllun ac i gwrdd â’r heriau cenedlaethol a rhanbarthol a chyrraedd y targedau.

Tra bod rhywfaint o’r gwaith yn dal yn heriol (oherwydd bylchau yn y dechnoleg sydd ar gael, fel cyflenwad parod o amnewidynnau addas ar gyfer cerbyd nwyddau trwm sy’n rhedeg ar danwydd ffosil a’r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i fynd i’r afael â phethau fel isadeiledd gwefru cerbydau trydan ar strydoedd) mae yna gamau gweithredu a gweithgareddau allweddol ar waith i sicrhau bod ein hisadeiledd, polisïau, strategaethau a gwasanaethau yn ystyried effaith carbon.

Ni ddylid bychanu’r gwaith sydd ei angen i ddatgarboneiddio ein gwasanaethau ac arwain y ffordd o ran dyheadau datgarboneiddio ehangach Cymru

Fodd bynnag, mae yna weithgareddau allweddol a chamau gweithredu eisoes ar waith a fydd yn sicrhau ein bod ni’n barod am y newid.

Mae’r adroddiad yn dangos ein cynnydd yn erbyn 5 pwynt sy’n allweddol i sicrhau ein bod ni’n gallu cyrraedd y targed di-garbon ac mae’r atodiadau hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol.

  • Gweithio gyda phartneriaid
  • Llunio llinell sylfaen carbon, monitro a gwerthuso
  • Blaenoriaethu a threfniadau llywodraethu ac atebolrwydd y Cyngor
  • Dyrchafu datgarboneiddio yn ein penderfyniadau, a gwerthuso effeithiau penderfyniadau’r Cyngor
  • Diffinio ffrydiau gwaith a chynlluniau gweithredu manwl ar gyfer y pedwar thema

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr Hinsawdd, “Rydym ni wedi gwneud cynnydd da wrth sefydlu’r fframwaith ar gyfer cyflawni’r targed di-garbon erbyn 2030. Rydym ni hefyd wedi gosod mannau gwefru cerbydau trydan mewn sawl lleoliad yn y fwrdeistref, ac wedi buddsoddi i sicrhau bod ein hadeiladau yn defnyddio ynni’n effeithlon.

“Ond mae yna rwystrau eraill i’w goresgyn wrth i ni symud yn ein blaenau, a byddwn yn parhau i weithio i wella a rhoi sylw i effeithlonrwydd ynni yn ein harferion gwaith a’n cynlluniau.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad yma a gwylio cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cartrefi ac Amgylchedd yma.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Her Ddarllen yr Haf! Her Ddarllen yr Haf!
Erthygl nesaf Chirk Leisure Diwrnod Agored yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau y Waun

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Digwyddiadau Pobl a lle Rhagfyr 5, 2025
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Rhagfyr 5, 2025
Green garden waste bin
Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor Rhagfyr 5, 2025
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam Rhagfyr 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Green garden waste bin
Y cyngor

Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf

Rhagfyr 5, 2025
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Pobl a lleY cyngor

Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor

Rhagfyr 3, 2025
telecare scam
Y cyngor

Sgàm Teleofal

Rhagfyr 2, 2025
ddiwrnod y cesglir eich biniau
Y cyngor

Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig

Rhagfyr 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English