Cynhelir Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2023 ddydd Iau 23 Tachwedd, ac mae’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o hawliau a hawliadau gofalwyr, i helpu gofalwyr gael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.
Pa unai ydi rhywun newydd ddod yn ofalwr, wedi sylweddoli eu bod wedi bod yn gofalu am rywun heb gefnogaeth, neu wedi bod yn gofalu am rywun ers nifer o flynyddoedd, mae hi’n bwysig eu bod yn deall eu hawliau a’u bod yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth sydd ar gael iddynt pan maent ei angen.
Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn awdurdodi gofalwyr gyda gwybodaeth a chefnogaeth. Mae’n helpu iddynt deimlo’n hyderus yn gofyn am yr hyn maent ei angen, a herio pethau pan nad yw eu hawliau’n cael eu bodloni, boed hynny yn y gweithle neu mewn addysg, yn cael gafael ar iechyd neu ofal cymdeithasol, neu tra’n rhyngweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill neu gartref.
Yn Wrecsam, gall gofalwyr di-dâl gael gafael ar gefnogaeth, gwybodaeth a chyngor gan GOGDdC, a gall gofalwyr ifanc gael gafael ar gefnogaeth drwy Ofalwyr Ifanc WCD.
Rydym ni’n cynnal tair sesiwn wybodaeth galw heibio yn ystod wythnos Diwrnod Hawliau Gofalwyr.
Swyddfeydd GOGDdC, 3A Edison Court, Parc Technoleg Wrecsam, LL13 7YT
Dydd Mawrth 21 Tachwedd
9am – 12pm
Neuadd Blwyf y Waun, Ffordd Caergybi, Y Waun, Wrecsam, LL14 5NA
Dydd Mercher 22 Tachwedd
10am – 12pm
Golden Lion, Ffordd Gaer, Yr Orsedd, Wrecsam. LL12 0HN
Dydd Gwener, 24 Tachwedd
10.45am – 11.45am
Galwch draw i sesiwn i siarad gydag un o’n swyddogion lles er mwyn dysgu mwy am y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd ar gael i chi fel gofalwr di-dâl yn Wrecsam. Bydd swyddogion lles o’n gwasanaeth gofalwyr ifanc WCD (gofalwyr ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych) hefyd ar gael i roi cyngor a gwybodaeth.
I gofrestru fel gofalwr di-dâl neu i ddysgu mwy, ewch i: www.newcis.org.uk
Lleoedd Croeso Cynnes yn dod i Lyfrgelloedd Wrecsam – Newyddion Cyngor Wrecsam