Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymgyrch Sceptre: taclo troseddau yn ymwneud â chyllyll
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ymgyrch Sceptre: taclo troseddau yn ymwneud â chyllyll
Arall

Ymgyrch Sceptre: taclo troseddau yn ymwneud â chyllyll

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 15, 2023 12:26 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
Ymgyrch Sceptre: taclo troseddau yn ymwneud â chyllyll
RHANNU

Erthygl Gwadd – Heddlu Gogledd Cymru

Roedd dydd Llun, 13 Tachwedd yn nodi cychwyn Ymgyrch Sceptre – sef wythnos o weithredu cenedlaethol a fydd yn cael ei chynnal hyd at ddydd Sul, 19 Tachwedd.

Mae Ymgyrch Sceptre, yn ymgyrch genedlaethol sy’n digwydd ddwywaith y flwyddyn ac sy’n cael ei chydlynu gan CCPSH (Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu). Mae’r ymgyrch wedi’i hanelu at godi ymwybyddiaeth am drosedd sy’n ymwneud â chyllyll a’r gwaith mae’r heddlu’n ei wneud er mwyn datrys, lleihau ac atal y drosedd.

Mae swyddogion yn cynnal nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys ymgyrchoedd sydd wedi’u targedu, ymrwymiad cymunedol ac addysgu, er mwyn tawelu meddwl pobl ifanc eu bod yn fwy diogel pan nad ydynt yn cario cyllell. 

Fel rhan o’r ymgyrch wythnos o hyd, mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi’r cyfle i bobl ildio eu cyllyll mewn modd diogel mewn biniau arbennig yn y llefydd canlynol:

Cownteri Blaen Gorsafoedd Heddlu:

  • Wrecsam
  • Yr Wyddgrug
  • Y Rhyl
  • Llandudno
  • Bae Colwyn
  • Bangor
  • Caernarfon
  • Caergybi

Eleni, mae sawl Canolfan Ailgylchu ar draws y rhanbarth yn cymryd rhan yn yr ymgyrch a gall cyllyll hefyd gael eu hildio yn y mannau canlynol:

Rhanbarth y Gorllewin:

  • Canolfan Ailgylchu Bangor, Stad Ddiwydiannol Llandygai, Bangor LL57 4YH
  • Canolfan Ailgylchu Cibyn, Caernarfon, LL55 2DB
  • Canolfan Ailgylchu Harlech, Ffridd Rasus, Harlech, LL46 2UW
  • Canolfan Ailgylchu Dolgellau, Ffordd y Bala, Dolgellau, LL40 2YF
  • Canolfan Ailgylchu Gwalchmai, Caergybi, LL65 4PW
  • Canolfan Ailgylchu Penhesgyn, B5420, Porthaethwy, LL59 5RY.

Yr Ardal Ganolog:

  • Canolfan Ailgylchu Mochdre, LL28 4YL
  • Canolfan Ailgylchu Abergele, LL22 9SE
  • Canolfan Ailgylchu’r Rhyl, LL18 2AT
  • Canolfan Ailgylchu Dinbych, LL18 2AT
  • Canolfan Ailgylchu Rhuthun, LL15 1LY

Rhanbarth y Gorllewin:

  • Canolfan Ailgylchu Bryn Lane, Stad Ddiwydiannol Wrecsam, LL13 9UT
  • Canolfan Ailgylchu Lodge, Brymbo, Wrecsam, LL11 5NR 
  • Canolfan Ailgylchu Plas Madoc, Wrecsam, LL14 3ES
  • Canolfan Ailgylchu Maes glas, Treffynnon, CH8 7GJ

Dywedodd yr Arolygydd Geraint Richards o Hyb Atal Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ei wneud er mwyn atgyfnerthu’r neges fod cario cyllell yn annerbyniol. Ni ddaw daioni o gario un. 

“Mae bob achos sy’n cynnwys cyllell â chanlyniadau i bawb sydd ynghlwm. Mae hon yn broblem ‘da ni’n ei chymryd hi’n hynod ddifrifol.

“’Da ni’n gweithredu’n gadarn os ceir rhywun ym meddu cyllell neu arf miniog yn anghyfreithlon ar y strydoedd. Buaswn yn eich annog chi gymryd y cyfle hwn er mwyn gwaredu unrhyw arfau drwy fynd â nhw i unrhyw gownter blaen yn ein gorsafoedd heddlu.

“Mae cyllyll yn beryglus ac nid oes lle iddyn nhw ar strydoedd Gogledd Cymru. Tydy cario cyllell ddim yn eich cadw chi’n saff. ‘Da chi’n peryglu eich hun drwy gario cyllell a ‘da chi’n fwy tebygol o gael eich niweidio mewn digwyddiad treisgar.

“Tra mae achosion a gyrwyr troseddau cyllyll yn gymhleth, mae ymyrraeth gynnar a gosod mesurau er mwyn ymdrin â’r gwir achosion yn gwbl hanfodol. ‘Da ni’n ymroddedig i ymdrin yn gydweithredol â mynd i’r afael â throseddau cyllyll ledled gogledd Cymru. Gwnawn barhau’r gwaith llwyddiannus hefo’n partneriaid a chymunedau sydd eisoes yn bodoli.”

Mae gan fân-werthwyr rôl bwysig i’w chwarae wrth ymdrin â throseddau cyllyll drwy sicrhau nad yw cyllyll yn cael eu defnyddio gan y bobl anghywir. Yn ogystal â hyn, bydd swyddogion yn ymweld â siopau manwerthu lleol er mwyn cynnal “gwiriad gwybodaeth” hefo staff o ran gwerthu cyllyll a’r ymdriniaeth ‘Herio ID 25’.

Ychwanegodd yr Arolygydd Richards: “Mae rhan fawr o waith y swyddogion allan mewn cymunedau ac ysgolion – yn addysgu pobl ifanc ar yr effeithiau mae cyllyll yn gallu eu cael nid yn unig ar unigolion, ond ar deuluoedd a chymunedau. Mi fydd y gwaith yma’n parhau drwy’r wythnos hefo’r Swyddogion Cymunedol Ysgolion yn ymweld â’r ysgolion.

“Dwi hefyd yn gofyn i rieni, gwarcheidwaid ac aelodau estynedig o’r teulu, er mwyn siarad hefo aelodau ifanc o’r teulu am droseddau cyllyll. Gallwch chwarae rôl hanfodol wrth eu hatal rhag bod ynghlwm. ‘Da ni’n eich cynghori i geisio siarad hefo nhw’n agored am y peryglon, ynghyd â’r canlyniadau newid bywyd sy’n deillio o gario cyllell.

“’Da ni’n ddiolchgar am y cymorth gan ein partneriaid a chymunedau. Hefo’n gilydd, fe wnawn barhau i weithio tuag at ddisodli cyllyll ac arfau peryglus a dod â’r rhai hynny sy’n gyfrifol, wrth eu cario a’u defnyddio, o flaen eu gwell.”

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae Ymgyrch Sceptre yn enghraifft sut mae’r heddlu’n codi ymwybyddiaeth ac yn gweithredu o ran troseddau cyllyll. Mae hi’n ymgyrch dwi’n ei chefnogi’n gyfan gwbl. Ni ddylai trosedd fel hyn gael lle mewn cymdeithas.

“Tra mae troseddau cyllyll yn isel yng Ngogledd Cymru, a diolch am hynny, mae hi’n bwysig i ni, serch hynny, eu lleihau nhw ymhellach fyth. Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, mae cyflawni cymdogaethau saffach yn flaenoriaeth allweddol o fewn fy nghynllun i er mwyn trechu trosedd a chreu cymunedau cadarn. Mae mentrau fel Ymgyrch Sceptre yn dangos sut allwn ni addysgu a lledaenu’r negeseuon ‘da ni angen eu clywed nhw ynghylch peryglon cario a defnyddio cyllyll, a’r boen maen nhw’n ei achosi i ddioddefwyr, eu teuluoedd nhw a’r gymuned ehangach. Gall troseddau cyllyll niweidio a darfod bywydau. Mae’n hanfodol ein bod ni’n cydweithio er mwyn ei atal.”

Os oes gennych bryderon am rywun rydych yn eu hadnabod neu’n gofalu amdanyn nhw, ac sy’n cario neu’n cuddio cyllell, ffoniwch yr Heddlu ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu’r wefan ymgyrch Byw Heb Ofn https://www.fearless.org/en/give-info . Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser.

Gall defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol ddilyn yr ymgyrch drwy’r hashnod #OpSceptre

Rhannu
Erthygl flaenorol Rheiliau dillad yng Nghyfnewidfa Ddillad Wrecsam Byddwch yn garedig gyda’ch poced a’r blaned – ewch i Gyfnewidfa Ddillad Wrecsam
Erthygl nesaf Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2023 Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2023 – mynnwch y cymorth, y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd ei angen arnoch

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English