Bydd Diwrnod Hwyl Cymunedol Lleoedd Diogel ar gyfer y teulu cyfan yn cael ei gynnal ddydd Iau, 29 Awst rhwng 10am a 4pm ar Sgwâr y Frenhines.
Gemau i’r plant, teithiau ffair, consuriwr a fydd yn chwarae ei hen driciau, stondinau gwybodaeth, cerddoriaeth, paentio wyneb, candi fflos, hufen ia llawer mwy ar y diwrnod.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn ffoniwch 01978 298550 neu 01978 298550
Mae cynllun “Lle Diogel” yn sicrhau bod gan bawb sy’n ymweld â Wrecsam le diogel i fynd iddo os ydynt yn teimlo’n bryderus neu’n teimlo panig, straen neu’n arbennig o ddiamddiffyn. Mae busnesau lleol yn cofrestru i gymryd rhan yn y cynllun ac yna’n arddangos arwydd y gall defnyddwyr sydd wedi cofrestru ei adnabod gan wybod y gallant gael cymorth gan y rhai y tu mewn.
Mae’n rhoi sicrwydd i bobl o wybod bod ganddyn nhw, neu’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, le diogel i fynd pan fydd angen. Gall y lle diogel fod yn siop, tafarn, llyfrgell, adeilad y cyngor neu unrhyw le sydd ar gael i’r cyhoedd. Bydd sticer yn nodi bod y lle yn “Lle Diogel” a bydd hefyd yn ymddangos yn y gronfa ddata genedlaethol.
Mae’n cael ei redeg gan SWS (Safonau Gwasanaethau Wrecsam) ac mae’n rhan o gynllun cenedlaethol.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION