Cynhelir diwrnod o hwyl cymunedol y penwythnos yma i nodi 10 mlynedd ers cael Safle Treftadaeth y Byd ar stepen ein drws.
Bydd dydd Iau, 27 Mehefin yn nodi 10 mlynedd ers y cofrestrwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte ac ardal 11 milltir o hyd o Swydd Amwythig i Sir Ddinbych yn Safle Treftadaeth y Byd (WHS) gan UNESCO.
Bydd diwrnod o hwyl Safle Treftadaeth y Byd yn cael ei gynnal ym Masn Trefor rhwng 2pm a 6pm ddydd Sadwrn 29 Mehefin, i nodi 10 mlynedd ers y cofrestrwyd y draphont gydag UNESCO.
Bydd llwythi o weithgareddau ar gael trwy gydol y diwrnod i deuluoedd eu mwynhau – yn cynnwys prosiect dawns cymunedol, hyfforddiant sgiliau syrcas, golff mini, stondinau cymunedol a hyd yn oed cyfle i gymryd rhan yng ngweithdy Big Build LEGO er mwyn adeiladu Traphont Ddŵr Poncysyllte ar raddfa lai.
Cewch hefyd gyfle i gamu ar gychod camlas, a rhoi cynnig ar badlo mewn cwryglau a chanŵau – a bydd Techniquest Glyndŵr wrth law i gynnig golwg agosach ar adeiladu traphontydd dŵr a phontydd.
Ond ni fydd y dathliadau’n dod i ben gyda’r diwrnod hwyl cymunedol.
Bydd hwyl, cerddoriaeth a goleuadau llachar O Dan y Bwâu yn cael ei gynnal maes o law, a bydd pen-blwydd y draphont ddŵr yn 10 oed yn cael ei gynrychioli yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Ac fel rhan o’r dathliadau, rydym hefyd yn gwahodd plant i gymryd rhan mewn cystadleuaeth farddoniaeth, a allai eu gweld yn ennill taith ar hyd Camlas Llangollen mewn cwch wedi ei dynnu gan geffyl – cewch ragor o fanylion am gystadleuaeth farddoniaeth plant ar wefan Glandŵr Cymru
Mae Safle Treftadaeth y Byd yn ymestyn 11 milltir o Gledrid yn Swydd Amwythig, trwy Fwrdeistref Sirol Wrecsam i Rhaeadr y Bedol ger Llangollen yn Sir Ddinbych.
Trefnir y digwyddiad gan Glandŵr Cymru, Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, ac mae wedi derbyn cyllid trwy Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol (RTEF) ac fe’i cefnogir gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariannir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, nod y Gronfa ydi gwella profiad i ymwelwyr a chreu cyrchfannau cryfach trwy gydweithio, Croeso Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol trwy Brosiect Ein Tirwedd Darluniadol.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN