Byddwn yn chwifio baner 999 ddydd Dydd Llun 9 Medi i nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys.
Beth ydi’r Diwrnod Gwasanaethau Brys 999?
- Mae #Diwrnod999 yn hyrwyddo gwaith y gwasanaethau brys a defnyddio’r gwasanaethau brys yn gyfrifol, yn addysgu sgiliau achub bywyd sylfaenol i bobl ac yn hyrwyddo’r gyrfaoedd a’r cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yn y sector
- Hyrwyddo ein harwyr 999 sydd yn ac wedi ein gwasanaethu
- Hyrwyddo gyrfaoedd a chyfleoedd gwirfoddoli ar draws y gwasanaethau brys
- Hyrwyddo defnyddio’r gwasanaethau brys yn gyfrifol
- Addysgu sgiliau achub bywyd sylfaenol i’r cyhoedd
- Hyrwyddo elusennau’r gwasanaethau brys a’u gwaith
- Hyrwyddo ymgyrchoedd sy’n cael eu cynnal gan wasanaethau brys rheng flaen
Meddai’r Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Ar ran pawb yn Wrecsam hoffaf ddiolch i bawb sy’n gwasanaethu a chyn aelodau o’r gwasanaethau brys am eu hymroddiad i’r gwasanaeth, eu dewrder a’u hangerdd am y gwaith maent yn ei wneud yma yn Wrecsam ac ar draws y wlad.”
Ategwyd y geiriau hyn gan Ian Bancroft, y Prif Weithredwr, ac ychwanegodd: “Heb os nac oni bai, pan fyddwn fwyaf diamddiffyn mae’r gwasanaethau 999 wastad yno i’n helpu. Maen nhw’n peryglu eu bywydau yn aml er ein mwyn i ni, ein cymunedau a’n teuluoedd fyw mewn amgylchedd diogel. “Diolch i bob un ohonoch chi.”
Darganfod mwy am ddiwrnod y gwasanaethau brys
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Marchnad Gwneuthurwyr Wrecsam yn chwilio am wneuthurwyr! Pobl greadigol – mae arnom ni eich angen chi!