Mewn diwrnod arferol, sawl gwaith mae gwasanaethau’r Cyngor yn dod i gyswllt â’ch bywyd?
Dim? Unwaith neu ddwywaith? Y tebygolrwydd ydi, ei fod yn llawer uwch na hynny. Wel, mi fyddwch chi’n synnu…
Mae Cynghorau lleol yn darparu ystod enfawr o wasanaethau sydd yn cyffwrdd â bywydau pobl mewn sawl ffordd.
Fel y mwyafrif o Gynghorau eraill, mae Wrecsam yn wynebu pwysau ariannol sylweddol, ac mae cael dau ben llinyn ynghyd yn mynd yn anodd. Felly, mae’n rhaid i ni ailfeddwl y ffordd rydym ni’n gwneud pethau dros y blynyddoedd nesaf.
Mae hynny’n mynd i olygu trafodaethau gyda phobl leol ynglŷn â’r hyn rydym ni’n ei wneud (a sut rydym ni’n ei wneud) a beth rydym ni’n rhoi’r gorau i’w wneud.
Felly rydym eisiau ceisio egluro mwy am yr amrywiaeth o wasanaethau rydym ni’n eu darparu, a’r heriau rydym ni’n mynd i’w hwynebu.
I’n helpu ni, rydym ni wedi penderfynu dilyn Jo, preswylydd o Wrecsam ar ddiwrnod arferol.
Mae Jo yn berson go iawn (mae’n siŵr eich bod wedi dyfalu hynny), ond fe allwn ei defnyddio hi i ddangos sawl gwaith y dawn ni i gysylltiad â gwasanaethau Cyngor Wrecsam yn ddyddiol.
Diwrnod Jo
Mae Jo yn 37 mlwydd oed ac mae hi’n byw mewn ffordd bengaead yn un o faestrefi Wrecsam gyda’i gŵr Alex, dau o blant Ted ac Evie, a’u ci sbaniel, Bob!
6.30am (Biniau ac Ailgylchu)
Mae hi’n ddiwrnod biniau. Mae Jo yn gwirio ei e-bost wythnosol gan y Cyngor yn ei hatgoffa pa fin i’w roi allan. Mae hi’n wythnos ‘arferol’, felly mae hi’n rhoi’r bin du a’r ailgylchu allan.
Mae Cyngor Wrecsam yn casglu gwastraff ac ailgylchu o tua 63,400 eiddo ar draws y Fwrdeistref Sirol.
7am (Torri Gwair)
Mae Bob angen mynd am dro, felly draw a nhw i’r parc lleol gyda phêl tennis. Mae’r gwair newydd gael ei dorri, ond mae rhai ardaloedd wedi cael eu gadael ar gyfer gwair a blodau gwyllt ar gyfer y pryfetach.
Rydym ni’n torri’r gwair ar fannau cyhoeddus agored yn rheolaidd, ac rydym ni’n rheoli hyn drwy rannu’r Fwrdeistref Sirol mewn i rannau penodol a thorri mewn cylchred. Rydym ni’n torri mwy na 4 miliwn metr sgwâr (4,030,443m2) o dir ym mhob cylchred.
8.15am (Prydau Ysgol)
Amser cerdded i’r ysgol. Mae Ted ac Evie eisiau cinio ysgol, sydd yn arbed amser ac arian yn lle gwneud brechdanau.
Mae prydau ysgol yng Nghymru am ddim mewn ysgolion cynradd ac maent yn cael eu darparu gan y Cyngor lleol. Mae ein gwasanaeth arlwyo prydau ysgol yn gweithio i ddarparu amrywiaeth dda o ddewisiadau bwyd, gyda bwydydd maethol i helpu plant i dyfu a datblygu.
8.40am (Addysg)
Mae’r plant yn ymgynnull yn y buarth. Mae Evie’n ffarwelio’n sydyn gyda Jo, ond mae Ted yn rhy brysur yn siarad gyda’i ffrindiau. Mae Jo yn dweud ta-ta yn sydyn ac yn mynd i’r gwaith.
Mae Cyngor Wrecsam yn cefnogi 71 o ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol, gan ddarparu addysg i fwy na 18,500 o blant.
9am (Plant sy’n Derbyn Gofal)
Mae Jo yn gweithio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cartref preswyl i blant sy’n derbyn gofal (plant sydd methu byw gartref, neu heb deulu y gallant fyw gyda nhw). Mae’n swydd fuddiol, a heddiw mae hi’n helpu hogyn ifanc o’r enw Jaiden i ymgartrefu.
Mae Jaiden yn 10 mlwydd oed a dim ond yn ddiweddar y bu’n rhaid iddo roi’r gorau i fyw gyda’i deulu yn sgil pryderon am gamddefnydd ei rieni o alcohol a chyffuriau. Mae’n newid enfawr i Jaiden, ond mae Jo a’i thîm yn gwneud gwaith gwych yn ei gefnogi o.
Mae Cyngor Wrecsam yn gofalu am fwy na 300 o blant sy’n derbyn gofal, a’r gost yw mwy na £22 miliwn y flwyddyn.
10.30am (Cynnal a Chadw Ffyrdd)
Mae Jo yn defnyddio ei egwyl ganol bore i roi gwybod i’r Cyngor am dwll yn y ffordd ym mhendraw ei stryd. Mae hi’n rhoi gwybod ar-lein.
Rydym ni’n gyfrifol am 1,148.5km o ffyrdd a dros 428.71km o lwybrau troed. Mae’n rhaid i ni archwilio’r rhain yn rheolaidd, yn ogystal ag ymateb i adroddiadau o unrhyw ddiffygion.
Hyd yn hyn eleni, (ers mis Tachwedd 2024) rydym wedi cael 865 o adroddiadau o dyllau yn y ffordd, ac rydym ni wedi archwilio’r rhain i gyd o fewn pum diwrnod gwaith. Yna rydym ni’n eu trwsio nhw yn unol â’n polisi archwilio priffyrdd.
Gyda llaw, mae rhoi gwybod am dyllau yn y ffordd yn gyflym a hawdd, ac mae’n helpu i ni arbed arian.
12pm – hanner dydd (Gofal Cartref)
Mae rhieni Jo yn byw 10 munud i ffwrdd o’i gwaith, felly mae hi’n galw draw i’w gweld nhw amser cinio.
Mae ei mam yn dangos arwyddion cynnar o dementia, ond mae ei rhieni’n mwynhau bod yn rhan o’r gymuned ac maen nhw’n gallu rheoli mwyafrif y pethau ar eu pen eu hunain, gydag ychydig o gymorth gan deulu a chymdogion.
Mae Cyngor Wrecsam hefyd yn darparu larwm Teleofal a gofalwyr sydd yn galw draw ddwywaith y dydd i’w cefnogi nhw gyda’u harferion boreol a min nos.
Rydym ni’n cefnogi bron i 600 o bobl bob wythnos gyda gofal cartref, sy’n costio tua £13 miliwn yn flynyddol. Mae hyn yn helpu pobl hŷn i fyw yn eu cartref eu hunain a chadw eu hannibyniaeth cyn hired â phosibl.
(Gofal Preswyl)
Mae Jo hefyd yn trefnu i fynd â’i rhieni i ymweld â’i modryb dros y penwythnos, sydd mewn cartref nyrsio lleol. Maen nhw wrth eu bodd yn ei gweld hi a chael paned a sgwrs.
Rydym ni’n cefnogi dros 600 o bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl neu nyrsio sy’n costio bron i £25 miliwn y flwyddyn.
12.30pm (Safonau Masnach)
Mae Jo yn sôn wrth ei rhieni am e-bost mae hi wedi’i gael gan y Cyngor, yn rhybuddio am fasnachwyr twyllodrus yn yr ardal, sydd yn ceisio codi crocbris ar berchnogion cartrefi diamddiffyn am waith diangen neu waith is na’r safon disgwyliedig ar eu heiddo.
Mae ein tîm Safonau Masnach yn helpu i amddiffyn pobl rhag masnachwyr diegwyddor. Rhwng mis Hydref 2023 a mis Hydref 2024 fe wnaethom ymweld â 55 eiddo, meddiannu 2,515 o fêps anghyfreithlon a 1,146 o becynnau tybaco anghyfreithlon.
Fe wnaethom hefyd erlyn masnachwr oedd wedi gwneud cais am lawer o arian ymlaen llaw am waith cwteri a gwaith to is na’r safon a heb orffen ailwampio ystafell ymolchi – gan helpu i sicrhau cyfiawnder ac iawndal i’r dioddefwr.
12.45pm (Cefnogi Pobl Ifanc)
Mae Jo yn taro mewn i’w nith ar ei ffordd yn ôl i’r gwaith. Mae hi’n 19 mlwydd oed ac ar ei ffordd i siarad gyda rhywun yn Siop Wybodaeth Wrecsam i gael cyngor ynglŷn â sut i fynd yn ôl mewn i addysg a gwella ei rhagolygon gyrfaol.
Mae’r Siop Wybodaeth wedi’i leoli ar Stryt y Lampint ac mae’n rhoi cefnogaeth cyfrinachol a rhad ac am ddim i bobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed.
Y llynedd cawsom dros 18,000 o gysylltiadau gyda phobl ifanc yn chwilio am gefnogaeth gydag iechyd a lles, addysg, tai, cyflogaeth a hyfforddiant.
3pm (Llyfrgelloedd)
Mae Alex, gŵr Jo yn pigo’r plant i fyny o’r ysgol, cyn mynd draw i’r llyfrgell i gyfnewid llyfrau.
Mae Cyngor Wrecsam yn rheoli 10 llyfrgell cangen ar draws y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â llyfrgell cyswllt cartref a llyfrgell dros dro. Ynghyd â chanolfannau adnoddau cymunedol, maen nhw’n chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau, ond mae angen i ni arbed o leiaf £185,000 o’n cyllideb weithredol.
Cymerwch ran yn ein hymgynghoriad i ddysgu mwy ac i leisio eich barn…
5pm (Iechyd a Ffitrwydd)
Mae Jo yn galw mewn i Ganolfan Byd Dŵr ar ei ffordd adref i nofio. Mae hi’n defnyddio ei cherdyn aelodaeth Hamdden Freedom i fynychu dosbarthiadau sbinio a ioga ddwywaith yr wythnos hefyd.
Mae Freedom Leisure dan gontract gyda’r Cyngor i redeg ei Ganolfannau Hamdden – yn cynnwys Canolfan Byd Dŵr, a Chanolfannau Y Waun a Gwyn Evans. Dyma ffordd cost effeithiol o ddarparu cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd da i bobl leol.
6pm (Byw â Chymorth)
Mae Jess, chwaer Jo yn ymweld am ‘chydig oriau min nos i gael te gyda theulu Jo.
Mae gan Jess anableddau dysgu ac mae hi’n byw mewn lleoliad byw â chymorth, lle mae hi’n cael y gofal a chymorth mae hi ei angen.
Rydym ni’n gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu tai unigryw i bobl sydd angen gofal a chymorth.
Mae yna 74 o dai byw â chymorth yn Wrecsam sydd yn cefnogi 179 o oedolion ag anableddau, ac mae’n costio mwy na £15 miliwn y flwyddyn.
6.45pm (Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref)
Mae Alex yn galw draw i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar Lôn y Bryn gyda hen ddodrefn gardd mae o angen eu taflu.
Mae yna dair Canolfan Ailgylchu yn Wrecsam – Lôn y Bryn, Brymbo a Phlas Madoc. Mae’r safleoedd yn cael eu rheoli gan FCC Environment ar ran y Cyngor.
Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, fe wnaethom ddelio â 23,750 tunnell o wastraff ar y safleoedd ac ailgylchu neu gompostio ychydig dros 78% o hyn.
7.30pm (Trwyddedu Tacsi)
Mae Jo yn ffonio am dacsi i fynd â’i chwaer adref. Mae Jo bob amser yn defnyddio’r un cwmni tacsi gan fod y gyrrwr yn ffrind i’r teulu ac wastad yn sicrhau bod Jo yn cyrraedd adre’n ddiogel.
Pan fyddwch chi’n neidio mewn i dacsi trwyddedig, mae’n siŵr nad ydych chi’n sylweddoli beth mae’r Cyngor yn ei wneud yn y cefndir. Rydym ni’n helpu i gynnal diwydiant tacsi diogel sydd wedi’i reoleiddio’n dda ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Ers mis Tachwedd 2024, rydym ni’n trwyddedu ac yn goruchwylio cyfanswm o 528 o gerbydau, 586 o yrwyr a 49 gweithredwr (o gwmnïau tacsi mawr i weithredwyr unigol).
8pm (Tai)
Mae Jo ac Alex yn rhentu eu cartref gan y Cyngor. Mae un o’r rheiddiaduron i fyny’r grisiau yn gollwng. Nid yw’n broblem fawr, ond mae Jo yn defnyddio gwefan y Cyngor i roi gwybod ar-lein.
Rydym ni’n un o’r darparwyr tai Awdurdodau Lleol mwyaf yng Nghymru. Ers mis Rhagfyr 2023, roedd stoc dai’r Cyngor yn cynnwys 11,073 eiddo.
9pm
Mae’r plant yn eu gwelyau. Mae Bob wedi bod am dro min nos. Mae Jo ac Alex yn rhoi eu traed i fyny o flaen y teledu. Rhan gorau’r diwrnod.
Crafu’r wyneb ydi hyn
Trwy gydol y diwrnod, mae Jo a’i theulu wedi dod mewn i gyswllt gyda gwasanaethau’r Cyngor sydd yn costio miliynau o bunnoedd y flwyddyn i’w rhedeg. Ond rydym ni’n gwneud cymaint mwy na hyn.
Rydym ni’n trefnu lleoliadau maethu, delio gyda cheisiadau cynllunio, cefnogi busnesau lleol, helpu pobl ifanc i aros allan o drwbl, glanhau strydoedd a phalmentydd, a gweinyddu budd-daliadau tai.
Rydym ni’n helpu i amddiffyn yr amgylchedd, rheoli digwyddiadau a lleoliadau cyhoeddus megis Tŷ Pawb a’r amgueddfa, darparu meysydd parcio, cefnogi twristiaeth, cofrestru genedigaethau, marwolaethau a phriodasau, a rheoli’r amlosgfa.
Dim ond crafu’r wyneb ydi hyn…mae’r rhestr yn hirfaith.
Mae’r costau’n cynyddu
Fel Cyngor, rydym yn wynebu bwlch o tua £28 miliwn yn y gyllideb dros y ddwy flynedd nesaf.
Y rheswm am hyn yw bod y galw am wasanaethau wedi cynyddu, mae’r gost o ddarparu gwasanaethau wedi cynyddu, a dydi’r cyllid rydym ni’n ei gael gan y Llywodraeth ddim yn ddigon i dalu’r biliau.
Ar ben hyn, mae’r cyngor eisoes wedi cael ei orfodi i wneud toriadau o dros £60m rhwng 2016 a 2020.
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Bydd llawer o bobl yn meddwl ‘Wel, be ‘di’r broblem – ‘de ni’n talu Treth y Cyngor, pam nad ydi’r Cyngor yn gallu parhau i redeg yr holl wasanaethau ‘ma?’
“Y ffaith yw, nid yw Treth y Cyngor yn dod yn agos at dalu am y gwasanaethau a ddarparwn ac rydym yn dibynnu ar gyllid y Llywodraeth, ond mae llai a llai o hynny.
“Mae Cynghorau wedi cael eu tanariannu ers peth amser, ac rydym ni’n mynd i orfod ailfeddwl yn radical beth ydym ni’n ei wneud.
“Ond y gyfrinach ydi cydweithio gyda phobl a chymunedau lleol, er mwyn darganfod beth yw’r blaenoriaethau. Mae yna rai gwasanaethau y mae’n rhaid i ni eu darparu, ac mae yna rai y gall pobl fyw hebddynt.
“Ond mae yna bethau eraill y gallem ni eu gwneud yn wahanol – mewn ffordd fwy cost effeithiol – neu eu hatal yn gyfan gwbl.
“Mae yna drafodaethau anodd o’n blaenau, felly mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd.”