Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyflwyno gwasanaeth ailgylchu podiau coffi yng nghanolfannau ailgylchu Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyflwyno gwasanaeth ailgylchu podiau coffi yng nghanolfannau ailgylchu Wrecsam
Y cyngor

Cyflwyno gwasanaeth ailgylchu podiau coffi yng nghanolfannau ailgylchu Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 11, 2024 9:24 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Coffee pods
RHANNU

Rydym wedi ychwanegu podiau coffi at y rhestr o eitemau a gesglir yn ein canolfannau ailgylchu, mewn partneriaeth â Podback, y gwasanaeth ailgylchu podiau. Felly, gall preswylwyr nawr ailgylchu eu podiau coffi alwminiwm a phlastig yng nghanolfannau Lôn y Bryn, Brymbo a Phlas Madoc.

Gellir casglu podiau coffi, te a siocled poeth gartref nes bydd preswylwyr yn barod i fynd â nhw i’r canolfannau ailgylchu, lle y dylent eu gwagio’n rhydd i’r cynhwysydd Podback priodol ar gyfer podiau alwminiwm neu bodiau plastig. Bydd arwyddion amlwg ar y cynwysyddion Podback. Ni ddylid cynnwys bagiau a phecynnau eraill.

Mae angen casglu podiau plastig ac alwminiwm ar wahân, gan eu bod yn cael eu hailgylchu mewn cyfleusterau gwahanol. Caiff yr holl bodiau a gesglir gan Podback eu hailgylchu yn y DU. Cânt eu torri’n fân er mwyn cael gwared ar y coffi, ac yna caiff y plastig a’r alwminiwm eu defnyddio i greu deunyddiau newydd, gan gynnwys cynnyrch pecynnu, cynnyrch adeiladu a chydrannau ceir.

Caiff y gwaddodion coffi eu trin drwy’r broses treulio anaerobig er mwyn cynhyrchu ynni adnewyddadwy (bio-nwy) a deunydd gwella pridd.

Mae Podback yn wasanaeth ailgylchu nid er elw, sydd wedi’i sefydlu a’i ariannu gan systemau podiau coffi mwyaf blaenllaw’r DU – NESCAFE Dolce Gusto, Tassimo a Nespresso, a mwy na 25 o frandiau a manwerthwyr podiau coffi cenedlaethol.  

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Podback i gyflwyno ffrwd ailgylchu arall yn y canolfannau ailgylchu ar gyfer ein preswylwyr. Gall y sawl sy’n yfed coffi bellach ei fwynhau, gan wybod bod modd ailgylchu’r podiau a’u defnyddio i greu cynnyrch newydd, ynni adnewyddadwy a deunydd gwella pridd.”

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Podback, Rick Hindley: “Mae’n wych gallu ehangu’r gwasanaeth Podback ar gyfer canolfannau ailgylchu Wrecsam. Rydym eisiau ei gwneud mor rhwydd â phosibl i ailgylchu podiau coffi, ac mae’r gwasanaeth newydd hwn yn galluogi preswylwyr i ollwng y podiau pan fo’n gyfleus, yn ogystal â deunyddiau ailgylchu eraill, a helpu i leihau gwastraff ac ailgylchu mwy.”

Cyflwyno gwasanaeth ailgylchu podiau coffi yng nghanolfannau ailgylchu Wrecsam

Sicrhewch eich bod yn gwaredu eich fêps yn gyfrifol – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchurecycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Person crossing the road Diwrnod ym mywyd Jo
Erthygl nesaf Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English