Gall fod ar eich misglwyf yn yr ysgol fod yn anodd, ac yn aml bydd yn codi cywilydd ar ddisgyblion sydd heb fynediad i ddarpariaeth misglwyf a gall olygu bod rhai disgyblion benywaidd ifanc yn peidio dod i’r ysgol.
Rydym yn ceisio darganfod maint y problemau a wynebir – a oes darpariaeth misglwyf ar gael yn yr ysgol ac os felly, sut mae cael gafael arnynt, a yw’r ysgol yn eu darparu am ddim, a ydych wedi peidio dod i’r ysgol oherwydd eich misglwyf?
Mae’r rhain i gyd yn gwestiynau pwysig a hyd yma mae bron i 300 wedi dweud wrthym am eu profiadau yn ein hysgolion uwchradd, ond hoffem i lawer mwy gymryd rhan.
A wnewch chi dreulio amser yn rhoi gwybod i ni ac annog eich merched, neu berthnasau benywaidd sy’n mynychu ein hysgolion uwchradd i gymryd rhan. Mae’r arolwg yn un cyflym i’w gwblhau a bydd yn ein helpu i ganfod maint unrhyw broblemau a all fodoli a sut y gallwn helpu i wneud pethau yn well.
Rhoddir gwybod i un o’n Pwyllgorau Craffu am ganlyniad yr arolwg yn yr hydref a bydd yn adroddiad cyhoeddus.
CYMERWCH RAN NAWR