Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gallery 01 – edrych yn wych, Ashley!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Gallery 01 – edrych yn wych, Ashley!
FideoPobl a lleY cyngor

Gallery 01 – edrych yn wych, Ashley!

Diweddarwyd diwethaf: Medi 26, 2018 1:51 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Aethom yn ddiweddar i gwrdd ag un o’r perchnogion siop annibynnol fwyaf newydd yn Wrecsam, Ashley Vaughan Roberts, sydd wedi agor Gallery 01 yn arcêd y de yn Nhŷ Pawb – siop ddillad a gemwaith hyfryd i ferched, ac mae pawb yn sôn amdani!

Mae Ashley wastad wedi gweithio yn y maes manwerthu, a dros y blynyddoedd mae wedi dod i ddeall beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio– mae ei sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid yn rhagorol ac mae ei chwaeth yn eithaf cŵl.

Eglurodd Ashley bod Wrecsam yn agos iawn at ei galon, ac mae’n gwerthfawrogi faint mae’r lle wedi newid, ond mae wrth ei fodd â’r hyn sydd wedi cael ei wneud yn Nhŷ Pawb, ac mae wedi derbyn llawer o ganmoliaeth gan ei gwsmeriaid sy’n hoff iawn o syniad y peth, y neuadd fwyd, a chynllun yr adeilad.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Mae llawer o’i gwsmeriaid yn dod o hyd i Gallery 01 ar y cyfryngau cymdeithasol neu’n dod ar ei draws drwy gerdded heibio. Mae’n gwerthu ffrogiau, a phob un ohonynt dan £40 gan frandiau cystadleuol sydd ddim ar gael yng Nghaer na Lerpwl, byddai’n rhaid teithio’r holl ffordd i Fanceinion i ddod o hyd i’r un brand.

Mae hefyd yn gwerthu casgliad o ganhwyllau, persawrau cartref, gemwaith a chynnyrch ymolchi. Mae’n cynnig ystod eang o brisiau i siwtio pawb, ac os ydych yn mynd yno i brynu anrheg i rywun, bydd yn dangos eich bod wedi mynd yr ail filltir honno.

Un o resymau Ashley dros ddechrau busnes yn Wrecsam oedd y nifer o ddigwyddiadau a’r gwyliau sy’n digwydd yma. Yn ystod y digwyddiadau hyn, daw pobl o bob cwr a chornel o’r rhanbarth i Wrecsam a nifer ohonynt yn ymweld â’i siop – ac maent yn sicr o dderbyn croeso cynnes yno.

Mae’n cyfaddef bod ganddo lawer i’w ddysgu ” ond dyna beth yw manwerthu – mae chwaeth cwsmeriaid yn newid, ac mae’n rhaid i ni eu bodloni”

Gofynnom i Ashley sut mae’n marchnata ei fusnes yn ystod y cyfnodau anodd hyn yn y byd manwerthu – ei ymateb oedd, pob clod i’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’n defnyddio Facebook, Instagram a Twitter– a Twitter sy’n llwyddo orau ar hyn o bryd!

Felly os oes gennych ddigwyddiad arbennig ar y gweill, neu efallai eich bod chi’n teimlo eich bod yn haeddu trît, pam na ewch chi draw i ymweld ag Ashley yn Gallery 01?

Diolchwn yn fawr i Ashley am ei amser a dymunwn bob lwc iddo â’i fenter yn Wrecsam.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/english/education/school_uniform_grant.htm “] APPLY FOR A PUPIL DEVELOPMENT GRANT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Council audit committee Ydyn ni’n rheoli’r risgiau? Cewch wybod ar 27 Medi
Erthygl nesaf Diwrnodau olaf i ddisgyblion benywaidd gael dweud eu dweud Diwrnodau olaf i ddisgyblion benywaidd gael dweud eu dweud

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English