Os ydych chi’n byw yn ward Smithfield, bydd cyfle gennych chi i ethol eich cynghorydd newydd yn yr is-etholiad ar 23 Chwefror 2023.
Mae pawb sy’n dymuno cynnig eu hunain wedi gwneud hynny, felly mae drosodd i chi yn awr. Ond cyn i chi allu pleidleisio, mae angen i chi sicrhau eich bod chi wedi cofrestru. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mynd i Cofrestru i bleidleisio ar wefan gov.uk.
Yng Nghymru, rydych chi’n cael pleidleisio os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn, felly os ydych chi wedi troi’n 16 oed yn ddiweddar, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru er mwyn i chi allu pleidleisio.
Rydych chi hefyd yn cael pleidleisio os ydych chi’n wladolyn tramor cymwys, felly os nad ydych chi wedi pleidleisio o’r blaen neu wedi symud tŷ, ewch i Cofrestru i bleidleisio ar wefan gov.uk.
Pryd mae’r dyddiad cau?
I bleidleisio yn yr is-etholiad Smithfield hwn, bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio erbyn hanner nos ar 7 Chwefror.
Os hoffech chi wneud cais am bleidlais bost, bydd angen i chi wneud hyn erbyn 5pm ar 8 Chwefror.
Yn olaf, os oes angen i chi wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, y dyddiad cau yw 5pm ar 15 Chwefror.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD