Diolch i rodd eithriadol o hael gan gwmni manwerthu NEXT, bydd pobl ifanc sy’n gadael gofal yn Wrecsam yn cael cyfle i ddathlu eu cyflawniadau yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal!
Mae’r manwerthwyr wedi rhoi £1000 a fydd yn caniatáu i’r rheiny sy’n gadael gofal a phlant sy’n ceisio lloches ar eu pen eu hunain sy’n 15 oed neu’n hŷn i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau o goginio a chwisiau i weithgareddau fel bowlio.
Dywedodd y Cyng. Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, “Mae hon yn rhodd eithriadol o hael ac rydym yn ddiolchgar iawn amdani.
“Mae eu haelioni’n golygu bod y bobl ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal 2024 er mwyn tynnu sylw at eu cyflawniadau, yn aml o dan amgylchiadau eithriadol o anodd, a gweld pa mor bell maen nhw wedi dod.
“Mae staff sy’n gweithio gyda gofalwyr ifanc yn gweithio’n galed i greu cyfnod pontio esmwyth i’r gwasanaethau oedolion, i wella cyfleoedd ac ennill sgiliau annibynnol yn ogystal â’u cefnogi i geisio hyfforddiant, gwaith a llety priodol. Mae eu profiad a’u cefnogaeth yn amhrisiadwy i ymadawyr gofal, wrth i lawer ohonyn nhw orfod pontio i wasanaethau oedolion yn gyflym iawn.”
Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal 2024
Cynhelir Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal rhwng dydd Llun 28 Hydref a dydd Sul 3 Tachwedd 2024.
Eleni pleidleisiodd y bobl ifanc dros y thema “Rydym i Gyd yn Un”.
Mae’r thema hon yn rhoi cyfle i’r ymadawyr gofal herio canfyddiadau pobl ohonynt a chodi ymwybyddiaeth o’r materion y mae’r rheiny mewn gofal yn eu hwynebu, gan ddathlu’r pethau anhygoel y mae nifer ohonynt yn mynd ymlaen i’w cyflawni. Wedi’i drefnu gan Become, sef elusen genedlaethol i blant mewn gofal ac ymadawyr gofal ifanc, eleni maen nhw’n defnyddio’r gair CARE i dynnu sylw:
- Dathlu ymadawyr gofal – Celebrate care leavers
- Chwyddo eu lleisiau – Amplify their voices
- Codi ymwybyddiaeth o’r heriau – Raise awareness of challenges
- Annog newid mewn polisi ac ymarfer – Encourage change in policy and practice.
Oherwydd y nifer gyfyngedig o ddewisiadau sydd ar gael i bobl ifanc sy’n gadael gofal bob blwyddyn mae dros draean ohonynt yn fwy tebygol na’u cyfoedion o beidio â bod mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant, ac amcangyfrifir bod 26% o’r boblogaeth ddigartref wedi cael profiad o fod mewn gofal.
Fodd bynnag, mae nifer yn mynd ymlaen i gyflawni pethau rhyfeddol, gan weithio yn erbyn y stereoteipiau a’r stigma gyda’u gwytnwch a’u penderfyniad yn disgleirio trwodd.g past the stereotypes and the stigma with their resilience and determination shining through.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Hoffech chi ddysgu mwy am Awtistiaeth?