Roedd digwyddiad arbennig diweddar yn Amgueddfa Wrecsam i aduno ‘Pwyliaid Llannerch Banna’, eu teuluoedd ac aelodau cymuned yr Ysbyty Pwylaidd yn llwyddiant ysgubol gyda phobl wedi theithio o bob cwr o’r DU i’w fynychu.
Roedd yn gyfle i’r rhai a fynychodd weld nifer o eitemau diddorol a gafodd eu hachub o’r ysbyty ac sydd yn awr yn cael eu dangos fel rhan o’r arddangosfa. Roedd hefyd yn gyfle i bobl rannu straeon ac i gwrdd a hen gyfeillion
Meddai’r Cynghorydd Andy Williams, Maer Wrecsam: ”Doeddwn i ddim yn gallu coelio faint o bobl oedd yno pan wnes i gyrraedd.
“Mae’r arddangosfa’n dangos sut y llwyddodd pobl i ddod ynghyd i greu cymuned newydd er gwaethaf yr holl heriau yr oeddent yn eu hwynebu yn sgil gwleidyddiaeth ryngwladol a rhyfel.”
Mae arddangosfa bresennol Amgueddfa Wrecsam ar hanes yr Ysbyty Pwylaidd ym Mhenley wedi denu llawer o ddiddordeb yn barod! Mae ‘na amser o hyd i gael golwg ar yr arddangosfa gan y bydd ar agor tan ddydd Mercher, 12 Mehefin.
Ar ôl i’r ysbyty agor yn 1946 daeth yn ganolbwynt i gymuned Bwylaidd a ffynnodd yn Llannerch Banna am flynyddoedd lawer wedi hynny.
Ers agoriad yr arddangosfa mae llawer o bobl wedi ymweld â’r amgueddfa i rannu eu hatgofion melys eu hunain a straeon am gymuned yr ysbyty yn yr hen ddyddiau.
Bydd yr arddangosfa ar agor yn Amgueddfa Wrecsam tan 12 Mehefin 2019.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]