Mae digwyddiad Calan Gaeaf am ddim, yn llawn losin a llanast, yn disgwyl plant o bob oed yng Ngwaunyterfyn yr wythnos hon.
Wedi’i gyflwyno gan Gyngor Cymuned Gwaunyterfyn a Cheidwaid Parc Wrecsam, bydd y digwyddiad i’r teulu yn cael ei gynnal ddydd Iau 30 Hydref rhwng 1pm a 3pm.
Bydd y cyffro i gyd yn digwydd yn y Clwb Bowlio ar Ffordd Jeffreys, Wrecsam, gyda chrochan o weithgareddau i bawb eu mwynhau.
Dewch i ryddhau eich creadigrwydd Calan Gaeaf mewnol, cymryd rhan yn y gystadleuaeth gwisg ffansi a dychryn y beirniaid yn wirion. Mae llwybrau arswyd ar yr agenda yn ogystal â chrefftau dychrynllyd a rhywfaint o goginio tân gwersyll. Perffaith ar gyfer bwganod bach llwglyd.
Bydd lluniaeth hefyd ar gael i bawb sy’n ddigon dewr i ymuno!



