Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ofalu am ddefnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed wrth i’r clociau newid
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ofalu am ddefnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed wrth i’r clociau newid
Pobl a lle

Ofalu am ddefnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed wrth i’r clociau newid

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 28, 2025 11:32 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Ofalu am ddefnyddwyr ffyrdd sy'n agored i niwed wrth i'r clociau newid
RHANNU

Erthygl Gwadd – Diogelwch ffyrdd Cymru

Gan fod y clociau’n troi’n ôl un awr y penwythnos hwn a chan fod yr oriau golau dydd yn mynd yn llai, mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn atgoffa defnyddwyr y ffyrdd am gymryd gofal ychwanegol a bod ar eich gwyliadwriaeth pan fyddwch chi allan yn y tywyllwch. Mae’r hydref yn aml yn dod â thywydd gwaeth a llai o welededd, gan gynyddu’r risg o wrthdrawiadau, yn enwedig rhai sy’n cynnwys defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed fel plant, pobl hŷn, cerddwyr, beicwyr, beicwyr modur, a ceffylau a’u marchogion.

Galwodd Rhys John-Howes, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, am wyliadwriaeth ychwanegol wrth i’r nosweithiau tywyll ddechrau, “Mae tywyllwch yn creu mwy o her i ddefnyddwyr y ffyrdd. Dylai modurwyr yrru’n ystyriol a lleihau eu cyflymder i ateb amodau’r traffig a’r tywydd.

“Dylai gyrwyr sicrhau hefyd fod eu cerbyd yn cael ei baratoi a’i gynnal yn dda.”

I sicrhau’r gwelededd gorau posibl yn amgylchedd y ffordd, mae angen i oleuadau cerbydau fod mewn cyflwr da, yn lân ac wedi’u haddasu’n gywir. Dylai sgriniau blaen a ffenestri fod yn rhydd rhag anwedd, yn gwbl glir ac yn lân y tu mewn a’r tu allan, a dylai’r sychwyr fod yn gweithio’n gywir. Gall diffyg sylw neu welededd gwael o safbwynt y gyrrwr arwain at amserau ymateb arafach, sy’n cynyddu’r risg o wrthdrawiad.

Ychwanegodd Rhys John-Howes, “Dylai gyrwyr osgoi gadael i bethau yn y cerbyd dynnu eu sylw, ac arafu er mwyn gallu dod â’r cerbyd i stop o fewn y pellter maen nhw’n gallu ei weld yn glir.

“Ychydig funudau yn unig y bydd gwiriadau rheolaidd syml ar gerbyd yn eu cymryd ond gall y rhain helpu i sicrhau nad fydd golwg y gyrrwr o beryglon posibl yn cael ei beryglu.”

Gall defnyddwyr eraill y ffordd gyfrannu at leihau nifer yr anafiadau drwy chwarae eu rhan hefyd. Yn achos beicwyr, mae defnyddio golau blaen gwyn, golau cefn coch ac adlewyrchydd cefn coch yn ofynnol yn y nos o dan y gyfraith.

O ran cerddwyr mae llawer o gotiau, bagiau ac esgidiau yn cynnwys deunyddiau adlewyrchol sy’n eu gwneud yn fwy gweladwy yng ngoleuadau cerbydau.

Mae dewis llwybrau sydd wedi’u goleuo’n dda â goleuadau stryd a chroesi mewn mannau croesi dynodedig yn arfer da i ddefnyddwyr ffyrdd o bob oed. Gall bod yn weladwy a gofalu am bobl eraill swnio’n syml, ond mae peidio â gwneud y pethau hyn yn gallu arwain at anafiadau ar y ffyrdd a allai gael eu hosgoi.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd ymgyrch dark night dywyll yn gweld swyddogion heddlu yn cynnal gwiriadau ar y ffordd, i sicrhau bod cerbydau’n addas ar gyfer y ffordd ar gyfer misoedd y gaeaf i ddod.

Cymerwch ychydig funudau i edrych ar eich cerbyd – gallai achub bywyd.

Cadwch yn ddiogel a gofalwch am eich gilydd.

Rhannu
Erthygl flaenorol Mobile phone Pedair gwlad yn uno i eirioli dros moesgarwch mewn bywyd cyhoeddus
Erthygl nesaf Halloween Disco Drygioni dychrynllyd ar gyfer ysbrydion a bwganod bach

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English