Mae pob rhiant wedi cael y profiad… wythnos neu ddwy yn unig sydd wedi mynd heibio ers dechrau gwyliau’r haf, ac mae’r plant yn yngan y geiriau arswydus hynny: “Dw i’n bôrd.”
Wedyn, llawer o ofid a wynebau hirion – ynghyd ag ambell gyfnod pan maent fel sombis wedi eu glynu i’r PlayStation neu TikTok, neu’n anfon negeseuon at eu ffrindiau i ddweud eu bod nhw’n bôrd.
Diolch byth, felly, fod yna ddigonedd o bethau’n digwydd yn Wrecsam er gwaethaf yr amseroedd anodd oherwydd y pandemig.
Yn fwy na hynny, gall cadw’n brysur dros y gwyliau ei gwneud yn haws i blant fynd yn ôl i’r meddwl cywir wrth fynd yn ôl i’r ysgol ym mis Medi.
Cynghorydd John Pritchard, aelod arweiniol gwasanaethau ieuenctid Cyngor Wrecsam:
“Mae hi’n bwysig cadw’n brysur yn ystod gwyliau’r ysgol, ond nid yw bob amser yn hawdd canfod pethau y mae ar y plant eisiau eu gwneud… ac weithiau mae angen anogaeth ychwanegol arnynt.
“Gall cadw eu meddyliau a’u cyrff yn brysur ei gwneud yn haws i blant newid gêr pan ddaw hi’n amser mynd yn ôl i’r ysgol, a gall hefyd wneud y gwyliau’n fwy hwyliog a difyr.
“Er gwaethaf y pandemig, mae yna lawer o bethau’n dal i ddigwydd yn Wrecsam, ac mae llawer o’r gweithgareddau hyn yn cael eu cynnig am ddim.”
Rhai syniadau…
1. Pethau difyr i’w gwneud mewn ysgolion
I ddechrau, mae llawer o bethau’n cael eu cynnal yn rhai o’n hysgolion a’n canolfannau hamdden sydd ynghlwm wrth ysgolion.
Darllenwch ein herthygl flaenorol er mwyn cael mwy o wybodaeth…
2. Mwy o hwyl gan dîm Wrecsam Egnïol
Yn ogystal â’r pethau sy’n digwydd mewn canolfannau hamdden sydd ynghlwm wrth ysgolion, mae tîm Wrecsam Egnïol wedi trefnu llwyth o bethau hwyliog eraill – yn cynnwys Tae Kwon Do, gymnasteg, athletau, a hyfforddiant sgiliau pêl-droed.
3. Gweithgareddau am ddim i deuluoedd yn Nhŷ Pawb
Mae yna bethau’n digwydd yn Nhŷ Pawb bob wythnos fel rhan o’u rhaglen gwyliau haf – ac mae’r cyfan am ddim!
Mae yna weithgareddau i bob oed – yn cynnwys ffilmiau, crefftau, comics, adeiladu den, a hyd yn oed arddio!
4. Cymerwch ran yn y Diwrnod Chwarae (4 Awst)
Yn hytrach na bod wedi’i leoli yng nghanol y dref, bydd y Diwrnod Chwarae wedi ei wasgaru ar draws y fwrdeistref sirol eleni – gan ei gwneud yn haws i bawb gymryd rhan.
Dilynwch Dîm Chwarae Wrecsam ar Facebook a Twitter er mwyn cael mwy o wybodaeth…
5. Ymwelwch â’n parciau a’n parciau gwledig
Mae bod allan yn yr awyr iach yn wych i blant (ac oedolion hefyd). Mae yna lwyth o ofodau awyr agored gwych yn y fwrdeistref sirol, a gall trip i’ch parc lleol gael gwared ar y gwe pry cop.
Ac wrth gwrs, mae gennym barciau gwledig gwych yn Wrecsam – yn cynnwys Dyfroedd Alun, Melin y Nant a Thŷ Mawr.
6. Mynd i nofio
????
Mae nofio yn llawer o hwyl, yn ymarfer corff gwych, ac yn sgil a allai achub bywydau. Felly pam na ddewch chi i weld beth y gall Freedom Leisure ei gynnig ichi ym Myd Dŵr, y Waun a Gwyn Evans (Gwersyllt) yr haf hwn?
7. Chwarae pêl-droed!
????
Mae yna lwyth o gyfleoedd i ferched a bechgyn fwynhau’r gêm brydferth yr haf hwn.
Er enghraifft, mae Sefydliad Cymunedol y Cae Ras (elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Wrecsam) yn cynnal hybiau pêl-droed i ferched 4-11 oed drwy gydol y gwyliau.
⚽️ ???????????? ???????????????????? ???????????????????????????????? ????????????????! ⚽️
???? Chirk, Caia Park, Gwersyllt
????️ Tuesdays, Wednesdays & Fridays over summer
???? For ages 4-11
???? £3 per session
✨ Loads of FunTo book fill in our online registration form…
???? https://t.co/gLYoLFEOZS pic.twitter.com/ihLGPCAjii— Racecourse Community Foundation (@Racecourse_C_F) July 14, 2021
Ac os oes gan eich plentyn ddiddordeb ymuno â thîm pêl-droed lleol, dyma’r amser i wneud hynny (cyn i’r tymor ddechrau). Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y rhan fwyaf o dimau llawr gwlad ar Facebook.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN