Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdesitref Sirol Wrecsam yn paratoi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) 10 mlynedd newydd ar gyfer 2022-2032, ac yn cynnal ymgynghoriad ar ein cynllun drafft, a baratowyd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae’r cynllun drafft yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer addysg Gymraeg, ein targedau a’r camau gweithredu rydym yn credu fydd yn arwain at gyflawni y saith deilliant gofynnol. Y nod yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn addysg dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd y deilliannau hyn hefyd yn cyfrannu at gyflawni Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae ein ymgynghoriad ar Gynllun 2022 – 2032 yn dod i ben ar yr 31ain o Ragfyr 2021 a rydym yn awyddus i glywed eich barn.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol Addysg, “fyddwn mewn sefyllfa well i asesu barn trigolion Wrecsam wrth i fwy o bobl ymateb i’r ymgynghoriad, felly plîs cymrwch ran- diolch.”
Gallwch ymateb trwy fynd ar ein gwefan http://www.yourvoicewrexham.net/projectcy/605
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL