NODWCH – Mae’r ymgynghoriad hon wedi ei gau (01.12.17)
Rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynigion i dorri £13 miliwn o’n cyllideb dros y ddwy flynedd nesaf, a hoffem gymaint o bobl â phosib i ddweud eu dweud ar y toriadau arfaethedig.
Mae’n rhaid i ni wneud y toriadau hyn wrth i ni barhau i weld llai o nawdd gan y llywodraeth ganolog. Ers 2008 rydym wedi gweld £52 miliwn o doriadau i’r gyllideb ac nid oes arwydd bod y mesurau “llym” hyn yn mynd i ddod i ben.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Yn yr erthygl hon, byddwn yn edrych ar y toriadau arfaethedig i’n Hadran Amgylchedd a Chynllunio sy’n cwmpasu ystod eang o wasanaethau yn cynnwys ailgylchu, casglu ysbwriel, gwaredu gwastraff, gwaith atgyweirio a chynnal a chadw priffyrdd, trafnidiaeth ysgol a chyhoeddus, cynnal a chadw mannau cyhoeddus, amlosgfa a mynwentydd, hawliau tramwy cyhoeddus, goleuadau stryd, diogelwch bwyd, trwyddedu, cadwraeth ac adeiladau rhestredig i enwi rhai’n unig.
Mae’r adran hon wedi cynnig gwerth dros £340,000 o doriadau ar gyfer 2018/19 ac rydym wedi amlinellu ‘rhain isod:
Codi tâl am gasglu mwy nag un bin gwastraff gwyrdd
Mae gan rhai aelwydydd mwy nag un bin gwyrdd ac rydym yn cynnig codi tâl i wagio pob bin gwyrdd ychwanegol am £30 y flwyddyn i bob bin. Bydd pob aelwyd yn parhau i gael gwasanaeth i wagio un bin gwyrdd am ddim.
Adolygu Parcio Ceir â Bathodyn Glas
Ar hyn o bryd gall deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim yn unrhyw un o feysydd parcio’r Cyngor. Cynigir cyflwyno tâl ym meysydd parcio’r Cyngor ar gyfer deiliaid Bathodynnau Glas.
Cyflwyno meysydd parcio mewn amryw barciau a lleoliadau
Cynigir codi tâl parcio o £1.00 i ymwelwyr Dyfroedd Alun, Tŷ Mawr, Melin y Nant a Doc Trefor.
Codi tâl ar aelodau a staff i barcio
Ar hyn o bryd mae rhai aelodau o staff ac aelodau etholedig sy’n defnyddio meysydd parcio canol y dref yn gallu parcio am ddim. Cynigir diddymu’r hawl hon ac annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hyn hefyd yn cynhyrchu incwm ychwanegol gan y bydd rhai yn dewis talu am barcio ym meysydd parcio’r Cyngor.
Adolygiad o’r parciau gwledig
Mae’r Cyngor yn rheoli 11 parc gwledig. Bydd y cynnig hwn yn gweld lleihad yn nifer y ceidwaid parciau ac yn ail-alinio’r gwasanaeth i ganolbwyntio ar reoli diogel safleoedd parciau allweddol Dyfroedd Alun a Tŷ Mawr, a byddai adolygiad hefyd o gyfleusterau ein parciau tymhorol. I sicrhau bod y parciau’n parhau i fod yn daclus, bydd y Gwasanaeth Strydwedd yn helpu’r ceidwaid. Bydd lleihau’r nifer o staff yn golygu bod rhai gwasanaethau yn cynnwys digwyddiadau a gwaith ysgol yn cael eu lleihau a bydd model ar gyfer gwasanaethau newydd yn cael ei ddatblygu.
Cynnydd yn y ffi flynyddol ar gyfer tocynnau bws rhatach
Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr nad oes ganddynt hawl i gludiant am ddim i’r ysgol yn gallu defnyddio tocyn bws rhatach pan mae seddi gwag ar fws ysgol. Cynigir cynyddu’r pris o £50 y tymor i £100 y tymor.
Cynnydd mewn ffioedd amlosgfa
Mae’r Cyngor wedi buddsoddi a gwella cyfleusterau yn Amlosgfa Pentre Bychan dros y blynyddoedd diwethaf ond mae cost amlosgiadau wedi codi oherwydd chwyddiant. Cynigir codi ffioedd Amlosgi o £50 ar gyfer amlosgiad sengl a £100 ar gyfer amlosgiad dwbl/ar y cyd.
Cynnydd mewn ffioedd rhandir
Cynigir cynyddu ffioedd rhandir i bob tenant o 25%. Bydd hyn yn mynd â’r gost o chwarter plot i £39, hanner plot i £72 a phlot llawn i £122.
Adolygiad o gasglu gwastraff ac ailgylchu
Rydym wedi cadw ein casgliadau gwastraff ac ailgylchu o dan adolygiad am y ddwy flynedd ddiwethaf ac rydym wedi cynyddu ein cyfraddau ailgylchu. Nawr mae gennym gerbydau ailgylchu newydd, casgliad ymyl palmant gwell ac rydym wedi cyflwyno casgliadau bwyd wythnosol a throliau ymyl palmant newydd. Mae’r Cyngor nawr eisiau adolygu amlder casgliadau gwastraff gweddilliol (biniau du) gyda’r bwriad i wella cyfraddau ailgylchu a chyflawni arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth.
“Rydym wir yn gwerthfawrogi eich barn”
Os ydych chi’n “cytuno” neu’n “anghytuno” gyda rhai neu’r cynigion hyn i gyd, rydym eisiau clywed gennych drwy Ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich barn, ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyfan, cliciwch ar“ddim yn gwybod” nes eich bod yn cyrraedd yr adran yr hoffech ei llenwi.
Mae eich barn yn bwysig i ni, felly peidiwch â gadael i bawb arall gael dweud eu dweud. Sicrhewch eich bod yn cael lleisio eich barn chi.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU]
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.