Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhwystredig? Peidiwch â gadael i’ch gwylltineb fod yn drech na chi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhwystredig? Peidiwch â gadael i’ch gwylltineb fod yn drech na chi
Y cyngor

Rhwystredig? Peidiwch â gadael i’ch gwylltineb fod yn drech na chi

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 30, 2017 11:11 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Wrexham frustrated person
RHANNU

Mae’r rhan fwyaf o gwsmeriaid Cyngor Wrecsam yn gwrtais, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny’n fawr.

Cynnwys
  • Trin pobl gyda pharch
  • “Ni ellir goddef ymddygiad ymosodol”
  • Cymerwch olwg

Fodd bynnag, rydym yn deall y gall nifer o’r materion rydym yn delio â nhw wneud i bobl deimlo’n angerddol neu’n bryderus, gan wneud i nifer fechan fynd yn rhy bell.

I helpu staff ddelio’n effeithio â hyn, rydym wedi diweddaru ein polisi ‘Unigolion Ymosodol, Afresymol o Daer ac/ neu Flinderus’.

Mae’r newidiadau yn ehangu cwmpas y polisi ac yn ei gwneud yn haws i ni fynd i’r afael ag ymddygiad amhriodol gan gwsmeriaid.

DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

Trin pobl gyda pharch

Credwn fod gan ein cwsmeriaid yr hawl i gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Ond credwn hefyd fod gan ein staff yr un hawliau.

Felly, rydym yn disgwyl i gwsmeriaid fod yn gwrtais wrth ymdrin â’n staff, a byddwn yn cymryd camau priodol yn erbyn pobl sy’n mynd yn rhy bell.

“Ni ellir goddef ymddygiad ymosodol”

Dywedodd y Cyng. David Kelly, aelod arweiniol dros Drefniadaeth – Cynllunio a Gwasanaethau Corfforaethol: “Mae’r polisi wedi cael ei ddiweddaru ar gyfer y nifer fechan o bobl sy’n ymddwyn mewn modd ymosodol, blinderus neu afresymol o daer.

“Rydym yn deall y gall rhwystredigaeth wneud i bobl ymddwyn yn groes i’r arfer ac mae ein staff wedi eu hyfforddi i ddelio â sefyllfaoedd o’r fath mewn modd sympathetig.

“Serch hynny, ni allwn oddef ymddygiad ymosodol a bydd y weithdrefn yn y polisi diweddaraf yn sicrhau ein bod yn delio ag ymddygiad o’r fath mewn modd teg a thryloyw.”

Cymerwch olwg

Gellir dod o hyd i’r polisi ar-lein

Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Council community skip days Digwyddiad glanhau cymunedol llwyddiannus..
Erthygl nesaf Trees Dweud eich dweud ar gynigion cyllideb ar gyfer ein Hadran Amgylchedd a Chynllunio

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Crematorium
Y cyngor

Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English