Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dweud eich dweud ar sut mae Gogledd Cymru yn cael ei blismona
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle
foster wales
Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lle Y cyngor
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Dweud eich dweud ar sut mae Gogledd Cymru yn cael ei blismona
Arall

Dweud eich dweud ar sut mae Gogledd Cymru yn cael ei blismona

Diweddarwyd diwethaf: 2021/07/29 at 9:55 AM
Rhannu
Darllen 6 funud
North Wales
RHANNU

Mae pobl ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i gynorthwyo creu glasbrint newydd ar gyfer y ffordd y caiff y rhanbarth ei blismona a chynorthwyo i benderfynu lle dylai 20 o SCCH ychwanegol weithio.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin a’r Prif Gwnstabl Carl Foulkes yn gofyn i gymunedau lleol, grwpiau, a chyrff cynrychioladol ddweud wrthynt yr hyn maent yn feddwl sydd fwyaf pwysig a’r hyn maent yn poeni fwyaf amdano.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Mae Mr Dunbobbin yn paratoi i ysgrifennu ei Gynllun Heddlu a Throsedd cyntaf ar ôl cael ei ethol ym mis Mai. Mae’n awyddus i gymaint o bobl â phosibl i gael llais yn y broses.

Ynghyd â’r Prif Gwnstabl, mae’n gofyn i bobl gymryd rhan mewn arolwg a wnaiff gynorthwyo i siapio blaenoriaethau Heddlu Gogledd Cymru.

Mae’r arolwg yn cwmpasu holl agweddau o blismona, o ymdrin â throsedd difrifol a threfnedig a gwarchod plant a phobl ifanc rhag camfanteisio a cham-drin rhywiol, i ymdrin â throlio ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymateb i alwadau difrys.

Bydd ar gael yma https://www.surveymonkey.co.uk/r/GZB3PCJ i bobl ei gwblhau tan ddydd Gwener, 20 Awst. Bydd copïau papur ar gael i’r rhai nad ydynt yn dymuno llenwi’r fersiwn ar-lein. Bydd fersiwn darllen hawdd ar gael hefyd.

Mae ar ffurf cwestiynau aml ddewis gyda chyfranogwyr yn mynegi ar raddfa un i bump ynghylch pa mor bwysig maent yn ystyried ydy pob agwedd wahanol o blismona.

Y nod yw cyhoeddi’r cynllun ym mis Medi.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Gogledd Cymru yw un o’r llefydd mwyaf diogel, i fyw ac i ymweld ag o yn y Deyrnas Unedig. Rwyf eisiau sicrhau bod hynny’n parhau. Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, mae gen i ddyletswydd statudol i ymgynghori â phobl leol ar flaenoriaethau plismona.

“Gan ymgynghori gyda’r heddlu, rwyf yn drafftio fy Nghynllun Heddlu a Throsedd cyntaf. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i’r heddlu a finnau fod yn ymwybodol o’r hyn mae pobl yn credu y dylai’r blaenoriaethau plismona fod.

“Fy nod ydy sicrhau bod barn, anghenion a disgwyliadau holl rannau o’n cymunedau’n cael eu hadlewyrchu yn y cynllun.

“Rwyf yn atebol i’r bobl pan mae’n dod i drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Felly mae’n hanfodol bwysig i mi wybod yr hyn mae pobl yn meddwl sut ddylai’r rhanbarth gael ei blismona.

“Bydd y Cynllun Heddlu a Throsedd diweddaraf yn amlinellu mewn Cymraeg a Saesneg plaen y lefel o wasanaeth y gall pobl ddisgwyl ei dderbyn gan eu heddlu lleol.

“Yn hanfodol, byddaf yn ymgynghori’r cyhoedd ar y polisïau a oedd yn fy maniffesto pan gefais fy ethol.

“Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cynnydd yn y nifer o SCCH yng Nghymru o 500 i 600. Rwyf wedi cael sgyrsiau i sicrhau bod Gogledd Cymru yn cael cyfran deg. O ganlyniad, mae’r heddlu i gael 20 SCCH ychwanegol.

“Mae’r arolwg hefyd yn rhoi’r cyfle i bobl roi eu barn ar le maent yn meddwl y dylai’r SCCH weithio.

“Yn bwysig, bydd hawliau a buddiannau dioddefwyr wrth galon y Cynllun Heddlu a Throsedd.

“Mae Canolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru yn gwneud gwaith gwych. Mae ganddo dimau arbenigol sydd wedi’u sefydlu er mwyn rhoi cymorth i ddioddefwyr troseddau seiber, camfanteisio’n rhywiol ar blant, caethwasiaeth fodern a thwyll.

“Rwyf yn awyddus buddsoddi ymhellach mewn gwasanaethau dioddefwyr. Byddaf yn sefydlu panel dioddefwyr fel bod gan oroeswyr hefyd lais yn y ffordd rydym yn gweithredu a’r cymorth rydym yn ei roi fel y gallwn wneud pethau’n well.

“Diben y Cynllun Heddlu a Throsedd ydy sicrhau bod yr heddlu’n talu sylw penodol at y pwyntiau hynny sydd wedi’u nodi yn hanfodol gan y cyhoedd, gennyf i ac yn wir gan yr heddlu ei hun.

“Rhan bwysig o’m rôl fel Comisiynydd fydd monitro cydymffurfiaeth yr heddlu gyda’r cynllun. Byddaf yn llym wrth eu dwyn yn atebol ar ran pobl Gogledd Cymru.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Foulkes: “Mae barn pobl Gogledd Cymru yn bwysig iawn i ni a thrwy arolygon blaenorol, maent wedi siapio’r heddlu heddiw.

“Rydym eisiau sicrhau ein bod yn ymdrin â phryderon cymunedau lleol er mwyn dylanwadu cynnwys a blaenoriaethau’r Cynllun Heddlu a Throsedd, a sut y plismonir Gogledd Cymru yn ei hanfod.  Ein nod yw sicrhau fod gan ein holl gymunedau lleol amrywiol lais mewn siapio gwasanaethau yn y dyfodol a dyrannu adnoddau.

“Ni fydd cwblhau’r arolwg yn cymryd llawer o amser. Ond bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n bwysig i’r cyhoedd, yn hyn maent yn feddwl rydym yn ei wneud yn dda a lle maent yn meddwl y gallwn wella.  Mae’r Comisiynydd a minnau’n edrych ymlaen at glywed gan gymaint o bobl a phosibl.”

Ceir copïau papur o’r arolwg drwy gysylltu â opcc@nthwales.pnn.police.uk neu ffonio 01492 805486. Mae fersiwn darllen hawdd o’r arolwg ar gael hefyd.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Playday Paratowch i gael hwyl! Mae Diwrnod Chwarae 2021 lai nag wythnos i ffwrdd
Erthygl nesaf Toilets Toiledau yng canol y dref sydd ar agor er cyfleustra i chi

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle Medi 15, 2025
foster wales
Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lle Y cyngor Medi 15, 2025
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle Medi 12, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor Medi 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Driving
Arall

Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya

Medi 3, 2025
Mobile phone
Arall

Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul

Medi 1, 2025
Hedgehog
Arall

Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?

Awst 19, 2025
Dog
Arall

Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?

Awst 19, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English