Mae Marchnad y Bobl OW yn cael ei agor ar 2 Ebrill 2018 ac mae Cyngor Wrecsam newydd ddyfarnu’r contract i Focus Wales i gynnal y digwyddiad lansio i ddathlu a dynodi agoriad y gofod arloesol newydd hwn.
Meddai Andy Jones, cyd-sylfaenydd Focus Wales: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda CBSW ar y prosiect hwn, a byddwn yn defnyddio ein profiad, creadigrwydd ac egni i wneud digwyddiad cyffrous y gall holl gymuned Wrecsam ei fwynhau.”
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Bydd Datblygiad Marchnad y Bobl Oriel Wrecsam, a fydd hefyd yn cael ei alw’n Tŷ Pawb, yn adnodd cymunedol diwylliannol a fydd yn dwyn y celfyddydau a marchnadoedd ynghyd o dan yr un to. Bydd y cydfodoli yn dathlu arwyddocâd marchnadoedd yn nhreftadaeth a hunaniaeth ddiwylliannol Wrecsam. Ar ôl 43 o flynyddoedd yn adeilad llyfrgell Wrecsam fel Oriel Wrecsam, bydd Tŷ Pawb yn ceisio creu lle newydd i drafod pynciau fel materion cymdeithasol, yr amgylchedd, gwleidyddiaeth, iechyd, hunaniaeth ddiwylliannol ac addysg.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rwyf wrth fy modd bod Focus Wales wedi cael y cytundeb hwn. Mae’r gymuned celfyddydau yn Wrecsam yn ymwybodol o’u henw da o ran proffesiynoldeb a’u hymrwymiad i Wrecsam a’r iaith Gymraeg a dwi’n siŵr bod y gymuned ynghyd â minnau a Chyngor Wrecsam yn eu croesawu i’n hymuno fel rhan o’r digwyddiad cyffrous ar gyfer agor Tŷ Pawb yn swyddogol ar 2 Ebrill.”
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU