Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyfarnu dros £1 miliwn i fusnesau Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Dyfarnu dros £1 miliwn i fusnesau Wrecsam
Busnes ac addysg

Dyfarnu dros £1 miliwn i fusnesau Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 25, 2026 12:16 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Manufacturing
RHANNU

Y mis hwn mae Cyngor Wrecsam wedi dyfarnu cymorth ariannol i 26 o brosiectau diolch i gynllun Grantiau Gweithgynhyrchu Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau), gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.

Cynnwys
  • Cystadleuol iawn
  • Rownd nesaf o gyllid

Mae’r cynllun a lansiwyd yn ddiweddar yn caniatáu i fusnesau gweithgynhyrchu yn Wrecsam wneud cais am grantiau o £5,000 hyd at £100,000 i helpu i brynu offer newydd, datgarboneiddio neu wneud addasiadau i eiddo, ac ennill achrediad neu ardystiad yn eu maes gwaith.

Mae’r cynllun yn rhan o raglen Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam, sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac wedi’i gydlynu gan Uchelgais Gogledd Cymru.

Cafwyd 51 o fynegiadau o ddiddordeb, a 35 o geisiadau grant yn ystod y rownd gyntaf hon.

Aeth ceisiadau drwy broses sgorio gadarn, a chymeradwywyd 26 o brosiectau ar gyfer cyllid hyd at gyfanswm gwerth o £1,286,302.

Cystadleuol iawn

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam a Chadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru: “Mae hon yn garreg filltir gyffrous i Wrecsam ac rwy’n falch iawn o weld ein rownd gyntaf o grantiau yn cael eu dyrannu.

“Bydd mentrau fel y cynllun grant hwn yn chwarae rhan hanfodol wrth sbarduno twf economaidd yn Wrecsam dros y blynyddoedd nesaf – gan helpu i greu swyddi o ansawdd uchel a chryfhau swyddogaeth y rhanbarth fel pwerdy ar gyfer uwch-ddiwydiannau yng Nghymru.

“Mae’n gyfnod cyffrous a hoffwn bwysleisio fy niolch i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am gefnogi’r Parth Buddsoddi.”

Roedd hon yn rownd gyntaf gystadleuol iawn o gyllid, lle roedd yn rhaid i fusnesau ddangos yn glir sut y byddai eu prosiect yn cyfrannu at dri amcan craidd y Parth Buddsoddi:

  • Creu 6,000 o swyddi newydd ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam.
  • Sicrhau £1 biliwn o fuddsoddiad yn y sector preifat.
  • Datblygu dros 5.5 miliwn troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol.

Roedd yn ofynnol i fusnesau hefyd gyfrannu cyllid o 30% tuag at gost eu prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr aelod arweiniol dros yr economi, busnes a thwristiaeth: “Fel cyngor rydyn ni eisiau helpu busnesau lleol i dyfu a bod yn llwyddiannus, oherwydd mae’r llwyddiant hwnnw’n creu cyfleoedd cyflogaeth a gyrfa i bobl leol, mae’n magu hyder ymhlith buddsoddwyr, ac mae’n helpu i roi Wrecsam ar y map.

“Mae’r Parth Buddsoddi wedi rhoi cyfle gwych i ni roi hwb enfawr i’r sector gweithgynhyrchu yn Wrecsam dros y degawd nesaf, a dim ond y dechrau yw’r cynllun grant hwn. Mae’n gyfnod cyffrous i’r rhanbarth.”

Rownd nesaf o gyllid

Bydd prosiectau na ddyfarnwyd grant iddynt yn ystod y rownd gyntaf yn gallu gwneud cais eto yn ddiweddarach yn yr hydref, ynghyd â busnesau eraill.

Os ydych chi’n rhedeg BBaCh yn Wrecsam yn y sector gweithgynhyrchu / gweithgynhyrchu uwch ac yn chwilio am gyllid grant i alluogi twf, beth am ddysgu mwy?

Cymerwch olwg ar wefan Cyngor Wrecsam neu cysylltwch â thîm Parth Buddsoddi’r cyngor.

Rhannu
Erthygl flaenorol Sioe Deithiol Cynghrair Henoed Cymru yn ymweld â Wrecsam ym mis Gorffennaf 2026 Sioe Deithiol Cynghrair Henoed Cymru yn ymweld â Wrecsam ym mis Gorffennaf 2026
Erthygl nesaf Nosweithiau seibiant dementia am ddim wedi'u lansio yn Deva House Nosweithiau seibiant dementia am ddim wedi’u lansio yn Deva House

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg

Datblygu arloesi ffresni bwyd

Hydref 20, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English