Os oes gan unrhyw un, gan gynnwys plant, symptomau Covid, dylent archebu prawf PCR, a dylent hwy ac aelodau o’u haelwyd hunan-ynysu tan i’r canlyniadau prawf gyrraedd.
Ni ddylech ddefnyddio prawf llif unffordd os ydych yn profi symptomau Covid.
Os yw’r prawf PCR yn dod yn ôl yn negyddol, nid oes angen parhau i hunan-ynysu.
Os yw’n dod yn ôl yn bositif, byddwch angen parhau i hunan-ynysu. Gallwch ddod o hyd am faint fydd rhai hunan-ynysu yma.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Prawf PCR a Phrawf LFD?
- Mae’r prawf PCR ar gyfer y rhai sydd â symptomau Covid. Gallwch archebu prawf PCR ar-lein neu dros y ffôn.
- Mae’r prawf LFD ar gyfer y rhai sydd heb symptomau Covid. Mae’n brawf sydd yn chwilio am bresenoldeb Covid-19. Mae’n brawf sydyn ac mae wedi ei gynllunio i gael ei ddefnyddio gan unigolyn nad oes ganddynt symptomau. Mae’r profion yn hawdd a sydyn.
Mae’n bwysig eich bod yn cymryd y prawf cywir, yn arbennig os oes symptomau Covid yn bresennol.
Dyma rywfaint o atebion i gwestiynau cyffredin a allai fod o fudd os ydych chi’n dal yn ansicr ynghylch pa brawf y dylai’r teulu ei ddefnyddio.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN