Bu ffrindiau sy’n cymryd rhan yn yr her 3 chopa, gan godi arian ar gyfer Dynamic, elusen yn Wrecsam, yn cyfarfod yn Neuadd y Dref cyn eu taith.
Yno i gyfarfod â’r grŵp yr oedd Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Steve Williams, a gyflwynodd grys Cymru i’r grŵp.
Wrth gyflwyno’r crys, dywedodd Llywydd y Gymdeithas, Steve Williams: “Ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru, rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu cynorthwyo elusennau lleol, a’r unigolion sy’n codi arian. “Cafodd y crys hwn ei arwyddo gan y chwaraewyr cyn eu gêm ddiweddaraf yn erbyn Latfia, ac mae’n bleser gennym ei roi, er mwyn iddo gael ei gynnwys mewn arwerthiant i godi arian at achos mor deilwng.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Rwy’n ymwybodol ers peth amser o’r gwaith gwych y mae Dynamic yn ei wneud yn y gymuned. “Mae’n cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i bobl ifanc a’u teuluoedd yn yr ardal, a dyna pam y mae’n bleser gen i eu cefnogi nhw. Fe hoffwn i ddymuno pob llwyddiant i Shane Jones, Lee Jones, Mark Connolley a Lee Richards gyda’u hymdrechion.”
Cychwynnodd y grŵp i frig y copa cyntaf am 6am dydd Sadwrn 6 Mai, gan gwblhau’r dasg o fewn yr amserlen ddynodedig.
Mae tudalen Just Giving wedi’i chreu: http://justgiving.com/fundraising/Dynamic3Peaks
Bydd y crys sydd wedi’i arwyddo’n cael ei gynnwys mewn arwerthiant yn y dyfodol i godi arian ar gyfer Dynamic.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.