A hoffech chi greu eich darn gwreiddiol o waith celf gyda chanllawiau arbenigol gan y gweithwyr proffesiynol?
Mae Tŷ Pawb yn cynnig cyfle i chi wneud hyn mewn sesiynau dosbarth meistr sy’n cael eu cynnal y mis hwn.
Dosbarth meistr print Lino
Yn y dosbarth meistr hwn, bydd printmaker, Katie Hudson, yn eich helpu i feistrioli hanfodion y broses o brintio dau liw ar lino.
Byddwch chi’n gallu dylunio, cerfio a phrintio eich gwaith celf gwreiddiol eich hun.
- Mae’r sessiwn yn addas ar gyfer dechreuwyr a darperir yr holl ddeunyddiau
- Cynhelir y sesiwn hon ddydd Sadwrn 9 Mehefin, 10.30am-4.30pm
- Ychydig iawn o leoedd sy’n aros felly gwnewch chi archebu cyn bo hir
- Y gost yw £60
- I archebu lle, cysylltwch â ni ar 01978 292093 neu e-bostiwch typawb@wrexham.gov.uk
Dosbarth meistr paentio olew
Yn y dosbarth meistr hwn, bydd y peintiwr, Wendy Connelly, yn eich cyflwyno i dechnegau clasurol gwneud paent olew yn defnyddio pigmentau amrwd, sialc ac olew papi.
Byddwch wedyn yn gallu defnyddio’r paent olew gorau sydd ar gael i greu eich llun olew eich hun. Bydd y broses gyffyrddol hon yn eich galluogi i brofi cyfarpar a syniadau di-rif er mwyn cael yr effaith a ddymunir. Dewch â’ch llyfr braslunio efo chi, rhannwch eich syniadau a chofleidiwch gelfyddyd gweithio gyda phaent olew cartref olew cartref.
Mae’r dosbarth yn addas ar gyfer dechreuwyr a darperir yr holl ddeunyddiau.
- Cynhelir y sesiwn hon ddydd Sadwrn 23 Mehefin, 10.30am-4.30pm
- Y gost yw £60
- I archebu lle, cysylltwch â ni ar 01978 292093 neu e-bostiwch typawb@wrexham.gov.uk
Dywedodd Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau, Y Cyng. Hugh Jones: “Un o nodau craidd Tŷ Pawb yw cyflwyno rhaglen gyfoes o ddosbarthiadau a sesiynau hygyrch sy’n helpu i ddysgu sgiliau a chrefft. Mae’r dosbarthiadau meistr hyn yn gyfle gwych i gael yn creadigol gyda chymorth gweithwyr proffesiynol profiadol. Bydd yn gyfle i ddysgu, i cynhyrchwch eich darn o waith celf i fynd adref.”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion rheolaidd a diweddariadau gan Tŷ Pawb
Each i wefan Tŷ Pawb yma.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL