Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gyrwyr sy’n Dysgu ar Draffyrdd? Sut mae hynny’n gweithio yn Wrecsam?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gyrwyr sy’n Dysgu ar Draffyrdd? Sut mae hynny’n gweithio yn Wrecsam?
ArallPobl a lle

Gyrwyr sy’n Dysgu ar Draffyrdd? Sut mae hynny’n gweithio yn Wrecsam?

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 5, 2018 4:33 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Gyrwyr sy’n Dysgu ar Draffyrdd? Sut mae hynny'n gweithio yn Wrecsam?
RHANNU

O ddydd Llun 4 Mehefin 2018 bydd gyrwyr sy’n dysgu yn gallu cymryd gwersi gyrru ar draffyrdd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, er na fydd yn orfodol i bawb wneud hynny. Y nod yw helpu i sicrhau bod mwy o yrwyr yn gwybod sut i ddefnyddio traffyrdd yn ddiogel.

Er bod hyn yn newyddion ardderchog i yrwyr sy’n dysgu, nid yw’n glir sut y bydd hyn yn gweithio yn Wrecsam – pan fo’r draffordd agosaf o leiaf 20 munud i ffwrdd ar gyfer gyrwyr sy’n dysgu?

Fodd bynnag, gallai cynllun sy’n bodoli eisoes fod yr un mor ddefnyddiol. Ers 2006, mae gyrwyr ifanc yng Nghymru wedi gallu cymryd rhan yn y cynllun Pass Plus Cymru, sy’n gwrs i unrhyw berson ifanc sydd newydd basio eu prawf gyrru.

PROBLEM GYDA CHEUDWLL? DWEDWCH WRTHYM NI AR-LEIN.

Ers i’r cynllun ddechrau, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu arian grant diogelwch ffyrdd i awdurdodau lleol i alluogi gyrwyr ifanc yng Nghymru i gyfrannu £20 yn unig tuag at y gost o fynychu cwrs Pass Plus Cymru.

Mae’n dechrau gyda gweithdy rhyngweithiol sy’n cael ei ddilyn gan elfen ymarferol. Yn draddodiadol, mae’r cwrs wedi cynnwys gyrru yn y dref, ar ffyrdd gwledig ac ar ffyrdd deuol; meysydd y gallai llawer o yrwyr ifanc fod eisoes wedi eu trin yn eu gwersi gyrru. Mae Pass Plus Cymru yn adeiladu ar y sgiliau hyn ac mae’n dysgu gyrwyr sut i ddelio ag ystod eang o sefyllfaoedd nad ydynt wedi dod ar eu traws wrth ddysgu gyrru, gan gynnwys gyrru ar draffyrdd.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant: “Fel mewn sawl rhan o Gymru, nid oes gennym draffyrdd gerllaw, ac efallai na fydd nifer o yrwyr sy’n dysgu yn dal i allu cymryd gwersi gyrru ar y ffyrdd hyn. Fodd bynnag, mae elfen ymarferol Pass Plus Cymru yn caniatáu amser i alluogi gyrwyr ifanc i gyrraedd rhannau o’r draffordd yn ystod y cwrs, gan eu helpu i ennill profiad yn barod ar gyfer teithiau yn y dyfodol ar gyfer gwaith neu hamdden.”

Am ragor o wybodaeth am argaeledd Pass Plus Cymru ledled Cymru, neu i archebu cwrs lleol, ewch i DragonDriver.com neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch 01978 729605.

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/online_w/eforms/pothole.htm “] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dysgwch gan y meistri yn Tŷ Pawb... Dysgwch gan y meistri yn Tŷ Pawb…
Erthygl nesaf Cyfle i gael dweud eich dweud ar y materion pwysig yng Nghymru Cyfle i gael dweud eich dweud ar y materion pwysig yng Nghymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English