Ydych chi’n aelod o un o’n llyfrgelloedd?
Gall ddefnyddwyr sy’n aelodau o’n gwasanaeth llyfrgell gael mynediad at Borrow Box – gwasanaeth ac ap ar-lein gyda miloedd o e-lyfrau ac e-lyfrau clywedol, sydd ar gael i’w benthyg am ddim.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Mae’n fersiwn ddigidol o’r hyn a gynigwn yn ein llyfrgelloedd, gan alluogi defnyddwyr i “fenthyg” ac adnewyddu fersiynau digidol o lyfrau a llyfrau clywedol.
Ac erbyn hyn mae newyddion da ar gyfer ein darllenwyr Cymraeg, gan fod Borrow Box wedi ychwanegu nifer o lyfrau Cymraeg i’w stoc ar-lein, gyda llyfrau gan awduron megis Manon Steffan Ros, Lleucu Roberts ac eraill.
Ar hyn o bryd, mae’r ap ar gael yn Saesneg yn unig, ond mae’r datblygwyr yn gweithio ar fersiwn Cymraeg.
I ddefnyddio Borrow Box, lawrlwythwch yr ap (ar gael o siop Apple App, Google Play ac wefan Borrow Box (dolenni gyswllt Saesneg)), defnyddiwch yr ap gyda’ch aelodaeth llyfrgell a dechreuwch ddarllen a gwrando ar ystod o lyfrau Cymraeg a Saesneg sydd ar gael.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU