Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cydnabyddiaeth i ysgolion mewn gwobrau iaith Gymraeg
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cydnabyddiaeth i ysgolion mewn gwobrau iaith Gymraeg
Busnes ac addysgPobl a lle

Cydnabyddiaeth i ysgolion mewn gwobrau iaith Gymraeg

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 6, 2018 12:10 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cydnabyddiaeth i ysgolion mewn gwobrau iaith Gymraeg
RHANNU

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo yn Linden House, yr Wyddgrug, ar ddydd Llun i ddathlu llwyddiant dwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint a Wrecsam yn y Siarter Iaith – set o nodau wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru gyda’r bwriad o annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio Cymraeg yn gymdeithasol.

Mae’r ddwy ysgol hon wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau i annog disgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ganolbwyntio ar ei defnyddio mewn sefyllfaoedd llai ffurfiol.

Yr ysgolion a ennillodd y gwobrwyon oedd Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon, ac Ysgol Bro Alun, Gwersyllt.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Derbyniwyd Ysgol Gwenffrwd y wobr aur, sy’n dangos effaith y siarter ar yr ysgol a’r gymuned leol.

Derbyniwyd Ysgol Bro Alun y wobr arian sy’n adlewyrchu cam cyflwyno’r siarter. Bydd yr ysgol yn parhau ar ei thaith i gael y wobr aur eleni.

Cydnabyddiaeth i ysgolion mewn gwobrau iaith Gymraeg
Claire Homard, Prif Swyddog Addysg a Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, gyda ddisgyblion o Ysgol Gwenffrwd
Cydnabyddiaeth i ysgolion mewn gwobrau iaith Gymraeg
Y Cyng. Hugh Jones a Siwan Meirion, Arweinydd Effeithiolrwydd Addysg, gyda ddisgblion o Ysgol Bro Alun

Yn ogystal â gweithio gyda rhieni a’r cymunedau cyfagos, mae’r ysgolion hyn hefyd wedi gweithio gydag ysgolion eraill yn eu sir er mwyn hyrwyddo nodau’r Siarter Iaith a chynyddu defnydd o’r Gymraeg ymysg disgyblion.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Llongyfarchiadau mawr i’r ysgolion – mae eu hymdrechion wedi bod yn arbennig ac rydw i’n falch eu bod yn cael canmoliaeth am eu gwaith.

“Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn eithriadol o bwysig, ac mae’n dda gweld bod yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn cael eu cydnabod fel hyn am yr holl waith maen nhw wedi’i wneud i sicrhau bod plant yn cael eu hannog i siarad Cymraeg y tu allan i’r ysgol yn ogystal ag ynddi.”

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Mae gan Sir y Fflint ymrwymiad cryf i’r iaith Gymraeg ac rydyn ni eisiau cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sydd yn ein sir.

“Rydyn ni’n cefnogi rhai o bob oed i wella eu sgiliau Cymraeg a rhoi’r hyder iddyn nhw ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd – yn y gwaith, gartref, yn yr ysgol ac yn eu cymunedau.

“Llongyfarchiadau i’r holl ysgolion ar ennill gwobrau’r Siarter Iaith.”

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol E-lyfrau Cymraeg nawr ar gael ar-lein E-lyfrau Cymraeg nawr ar gael ar-lein
Erthygl nesaf Mae’r farchnad Nadolig Fictoraidd yma! Ewch i weld drosoch eich hunain... Mae’r farchnad Nadolig Fictoraidd yma! Ewch i weld drosoch eich hunain…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English