Bydd ysgol leol yn trosi Amgueddfa Wrecsam yn ystafell ddosbarth fel rhan o brosiect peilot newydd cyffrous!
Bydd Ysgol Gynradd Borderbook yn cynnal eu dosbarthiadau yn yr Amgueddfa am y dair wythnos nesaf fel rhan o brosiect ‘My Primary School is at the Museum’.
Bydd disgyblion yn defnyddio’r holl Amgueddfa fel ystafell ddosbarth, gyda gweithgareddau fel gweithdai yr Ail Ryfel Byd, a chreu arddangosfa.
Y nod yw hyrwyddo partneriaethau ysgolion ac amgueddfeydd ymhellach, a gwella addysg disgyblion mewn lleoliad diwylliannol unigryw.
Caiff y disgyblion eu llongyfarch yn swyddogol am gwblhau eu hamser yn yr amgueddfa mewn digwyddiad i ddathlu ar ddydd Mercher 1 Ebrill.
Prosiect ysgolion ‘arloesol’
Mae ‘My Primary School is at the Museum’ yn brosiect a ddatblygwyd gan Kings College Llundain yn dilyn syniad gan y pensaer Wendy James. Yn 2017, cymerodd tri lleoliad diwylliannol ar draws y DU ran mewn prosiect newydd a oedd yn llwyddiannus dros ben. Mae prosiectau peilot ychwanegol wedi’u treialu ers hynny, nid yn unig yn y DU ond mewn gwledydd eraill hefyd.
Y cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru
Meddai’r Aelod Arweiniol, Hugh Jones: “Amser Ysgol Borderbrook yn yr Amgueddfa fydd y prosiect peilot cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru, felly mae hwn yn brosiect cyffrous iawn i Amgueddfa Wrecsam.
Nid oes unrhyw ganlyniadau penodol i breswyliaeth, maent yn gyfannol ac yn cael eu harwain gan y plant, gan annog plant i ddilyn eu diddordebau sy’n unol â’r Cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru.
“Mae gan amgueddfeydd gymaint i’w gynnig o ran gwella ac ehangu addysg mewn amgylcheddau cyfoethog, gyda mynediad i wrthrychau go iawn a ffynonellau gwreiddiol. Nid hanes yn unig y mae’r prosiectau hyn yn ymwneud ag o, mae cymaint mwy na hynny, a gallant gynnwys Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, dylunio, ysgrifennu creadigol, celf, daearyddiaeth a chymaint mwy.
“Mae prosiectau fel hyn yn chwarae rhan fawr iawn wrth ymgysylltu pobl ifanc gyda’n hamgueddfeydd a’u hysbrydoli i ddysgu mwy am ein treftadaeth leol. Rwy’n siŵr bydd y plant yn cael amser gwych dros y dair wythnos nesaf.”
Meddai athrawes o Ysgol Borderbrook, Alison Kerr: “Rydym ni wrth ein bodd i fod yn rhan o brosiect ‘My Primary School at the Museum’ cyntaf i’w dreialu yng Ngogledd Cymru.
“Cafodd y plant amser ffantastig wrth ymweld ychydig wythnosau yn ôl. Fe wnaethon nhw hyd yn oed greu rhestr newydd o godau ymddygiad newydd yn yr amgueddfa a oedd yn cynnwys ‘rheolau’ fel ‘mwynhewch eich hun’, ‘gofynnwch gwestiynau’ a ‘rhowch gynnig ar bethau newydd’!
“Mae cymaint o hanes ar stepen ein drws ac mae mor bwysig galluogi i blant gael y cyfle i ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth ac ymgysylltu â’r gwasanaethau gwych sydd gennym yn ein hardal leol.”
Plant yn cymryd drosodd yr amgueddfa!
Fel rhan o’r breswylfa, bydd y disgyblion yn meddiannu cyfryngau cymdeithasol Amgueddfa Wrecsam! Cadwch lygad ar dudalennau Facebook, Twitter ac Instagram yr Amgueddfa i weld beth fydd y plant wedi bod yn ei wneud.
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN