Mae digon o bobl yn awyddus i ddysgu Cymraeg, ond ddim yn gwybod lle i gychwyn.
Efallai eich bod chi’n un ohonyn nhw?
Efallai nad oes gennych chi unrhyw brofiad o’r iaith Gymraeg. Efallai eich bod wedi dysgu’r iaith yn yr ysgol ac am fynd yn ôl ati. Neu efallai eich bod yn siarad yr iaith bob dydd ac am wella’ch sgiliau.
Mae llawer o apiau, cynorthwywyr, dosbarthiadau, sefydliadau ac adnoddau ar gael – ar-lein ac all-lein – a all eich helpu.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Ewch i’r dudalen Dysgu Cymraeg er mwyn darganfod mwy.
Mae mwy o wybodaeth ar ddysgu Cymraeg hefyd ar gael ar adnodd Dysgu Cymraeg Llywodraeth Cymru, mae mwy o fanylion am hynny ar gael yma.
“Yn falch o dreftadaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg yn Wrecsam”
Mae cymuned draddodiadol gref o siaradwyr Cymraeg yn Wrecsam – yn ogystal â niferoedd cynyddol o ddigwyddiadau diwylliannol Cymraeg.
Gall dealltwriaeth o’r Gymraeg fod o fudd mawr i fusnesau, gyda llawer yn gweld ei fod yn eu helpu i ymgysylltu’n well â’u cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Fel siaradwr Cymraeg a dysgwr, rwy’n gwybod o brofiad fod digon o adnoddau ar gael er mwyn helpu pobl i ddechrau siarad yr iaith.
“Beth bynnag fo’ch lefel o Gymraeg – os ydych yn cychwyn o’r newydd neu os oes peth dealltwriaeth gennych ond eich bod am wella – bydd help ar gael.
“A bydd mwy a mwy o’r rhain ar ffurf apiau neu wasanaethau ar-lein, sy’n golygu ei fod yn haws nag erioed i ddysgu ychydig o Gymraeg bob dydd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Jones: “Yma yng Nghyngor Wrecsam rydym yn falch iawn o dreftadaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg yn Wrecsam, ac rydym am wneud cymaint ag y gallwn i’w annog ac i helpu eraill i siarad yr iaith. ”
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI