Eisiau gweithio yn Wrecsam? Edrychwch ar y swyddi hyn…

New City New Career

Efallai mai eich swydd nesaf fydd gweithio i Gyngor Wrecsam? Mae mwy o swyddi wedi eu hychwanegu i’n tudalen swyddi gwag diweddaraf, felly os nad ydych wedi cael golwg ers tro, mae’n werth cael golwg nawr.

Yn aml, mae swyddi gwag mewn addysg, tai, glanhau, gwasanaethau i gwsmeriaid, TG a gofal cymdeithasol, i enwi ond y rhai!

Gall gweithio i’r cyngor fod yn ddewis gyrfaol da – mae fel arfer yn cynnwys pensiwn, lwfans gwyliau da, a sefydlogrwydd cymharol.

GWELD Y SWYDDI DIWEDDARAF

Dyma rai o’n swyddi diweddaraf a fyddai efallai o ddiddordeb i chi 🙂

Gweithio ym maes gofal cymdeithasol

Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, neu’n meddwl gwneud, mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa yng Nghyngor Wrecsam. Edrychwch ar y swyddi hyn…

Cyfleoedd am swyddi Tai

A hoffech chi weithio yn ein hadran dai? Mae gennym swyddi gwag gwych i’w llenwi. Edrychwch ar y swyddi hyn…

Cyfleoedd am swyddi TGCh

A allech chi chwarae rôl allweddol yn ein Tîm TGCh? Mae gennym 3 cyfle cyffrous i Ddadansoddwyr Technegol ymuno â ni. Cymerwch olwg…

Swyddi Addysg ac Ymyrraeth Gynnar

Allech chi weithio ym maes Addysg ac Ymyrraeth Gynnar? Mae gennym gyfleoedd swyddi gwych, felly os oes gennych chi’r sgiliau, cymrwch olwg ar y rhain…

Eisiau gweld mwy? Cliciwch ar y ddolen isod 🙂

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm “] GWELD Y SWYDDI DIWEDDARAF [/button]