Ydych chi’n mwynhau defnyddio Facebook? Ydych chi’n teimlo fel aelod gwerthfawr o’r safle hon? Os ydych, gallwch ennill dros 1 miliwn o bunnau!
Arhoswch funud.
Yn rhy dda i fod yn wir?
Mae hynny oherwydd ei fod.
Mae sgiâm newydd wedi dod i’n sylw sy’n cael ei anfon i flychau e-bost pobl gan rywun sy’n honni eu bod o Dîm Gwobrau Ffyddlondeb Facebook (nad yw’n bodoli!).
Efallai bydd yr e-bost rhywbeth tebyg i hyn…
Yna, efallai byddant yn honni bod banc, cyfreithiwr, asiantaeth o’r Llywodraeth neu sefydliad arall yn gofyn am ffioedd i’w talu cyn y gellir symud yr arian i chi. Bydd y twyllwyr yn aml yn gofyn i chi wneud taliad drwy wasanaeth trosglwyddo arian.
Diogelwch eich hun:
• Peidiwch byth ag anfon arian na rhoi manylion cerdyn credyd, manylion cyfrifon ar-lein na chopïau o ddogfennau personol i unrhyw un nad ydych yn eu hadnabod.
• Os yw rhywun yn honni eu bod o sefydliad penodol, gwiriwch hunaniaeth y cyswllt drwy ffonio’r sefydliad perthnasol yn uniongyrchol – dewch o hyd iddynt drwy ffynhonnell annibynnol megis llyfr ffôn neu chwiliad ar-lein. Peidiwch â defnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd i chi yn y neges.
• Chwiliwch am enwau, manylion cyswllt neu union eiriad y llythyr/e-bost ar-lein i wirio am unrhyw gyfeiriadau at y sgiâm. Gellir dod o hyd i sawl sgiâm drwy wneud hyn.
• Os ydych chi’n meddwl ei fod yn sgiâm, peidiwch ag ymateb – efallai y bydd twyllwyr yn defnyddio dulliau personol i fanteisio ar eich teimladau i gael eu ffordd.
• Byddwch yn wyliadwrus os oes rhywun yn cysylltu â chi yn ddirybudd, hyd yn oed os yw’n dod gan enw rydych yn ei adnabod
• Peidiwch â rhuthro – ni ddylai fyth fod angen i chi wneud penderfyniad yn y fan a’r lle
• Peidiwch byth ag anfon arian i rywun nad ydych erioed wedi cwrdd â nhw
• Peidiwch byth â rhoi eich manylion banc oni bai eich bod yn sicr y gallwch ymddiried yn y person sy’n cysylltu â chi
• Cerddwch i ffwrdd o hysbysebion swydd sy’n gofyn am arian o flaen llaw
• Nid yw cwmnïau cyfrifiadurol go iawn yn gwneud galwadau ffôn digymell i’ch helpu i drwsio eich cyfrifiadur
• Ydych chi’n amau twyll? Rhowch y ffôn i lawr, arhoswch am bum munud i glirio’r llinell – defnyddiwch ffôn arall i ffonio
• Dull gwerthu sy’n ceisio eich perswadio? Dywedwch: “Na, dim diolch” – nid oes unrhyw reidrwydd arnoch i drosglwyddo eich arian, dim ots pa mor gwrtais yw’r unigolyn
• Peidiwch â dioddef yn dawel – siaradwch am dwyll
Lledaenwch y gair, a gofalwch am ffrindiau, aelodau o’r teulu a chymdogion bregus.
Cofiwch, nid yw cynlluniau gwneud arian yn gyflym yn bodoli: os yw’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debygol ei fod.
Cysylltwch â Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth Defnyddwyr ar 03454040506 (Saesneg) 03454040505 (Cymraeg) am gyngor pellach neu i adrodd sgiâm posib.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN